Arbenigwr ym maes iechyd meddwl ym Mangor yn helpu i lansio'r European Mental Health Integration Index
Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 10 Hydref. I nodi'r achlysur mae'r Mental Health Integration Index (MHII) yn edrych am y tro cyntaf ar y sialensiau sy'n gysylltiedig ag integreiddio Ewropeaid gyda salwch meddwl i gymdeithas a chyflogaeth yn y 28 o wledydd sy'n perthyn i'r Undeb Ewropeaidd, a hefyd Norwy a'r Swistir. Comisiynwyd yr ymchwil gan Janssen ac fe'i gwnaed gan yr Economics Intelligence Unit.
Un o'r tîm o bump a oedd yn cynghori ynghylch pa feysydd ac eitemau indecs y dylid eu cynnwys oedd Peter Huxley, Athro Ymchwil Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Bangor, a dyma oedd ganddo i'w ddweud ar ganfyddiadau'r adroddiad:
"Tra rydym i gyd yn wynebu sialensiau mawr o ran rhoi cefnogaeth briodol i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, mae'n dda gweld bod Prydain yn dod yn ail yn yr indecs integreiddio. Mae yna lawer i'w wneud o hyd i wella cynhwysiad cymdeithasol, hyd yn oed yn y gwledydd a gafodd y sgoriau uchaf. Nid yw enghreifftiau o'r polisïau a'r dulliau gweithredu gorau wedi'u cyfyngu i wledydd a sgoriodd yn uchel ac maent i'w cael mewn llawer o fannau eraill yn Ewrop ac, yn wir, yng ngweddill y byd."
Roedd yr Athro Huxley, sy'n gweithio yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, yn un o'r Panel Arbenigwyr Indecs Integreiddio Iechyd Meddwl. Rhoddodd gyngor ynghylch pa eitemau y dylid eu cynnwys ym mhedair adran yr Indecs: amgylchedd, mynediad, cyfleoedd a llywodraethu.
Meddai:
"Mae angen i ni fod yn glir na chafodd yr MHII ei ddatblygu er mwyn cefnogi strategaethau wedi'u seilio ar dargedau yn y gwasanaeth, ond yn hytrach i helpu gwneuthurwyr polisïau ac eraill i ddangos effaith y polisïau integreiddio, gyda'r nod yn y pen draw o wella integreiddio a chynhwysiad cymdeithasol i bobl a'u teuluoedd.
"Un o'r darganfyddiadau sy'n achosi mwyaf o syndod yw mai dim ond saith o wledydd sydd â threfniadau polisi i gefnogi datblygu a defnyddio mesurau sy'n cofnodi sut mae pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau wedi dod ymlaen (Patient Recorded Outcome Measures - PROMS). Buaswn yn disgwyl y bydd fersiynau dilynol o'r Indecs hwn yn dangos ymlediad graddol PROMS ledled Ewrop."
"Ystyriaeth bwysig a ddaeth i'r amlwg yn y gwaith arloesol hwn yw mai eu cyfoedion mewn rhai achosion yw'r rhai gorau i ddarparu'r gymuned a'r amgylchedd cymdeithasol y caiff pobl eu hintegreiddio iddynt.
Daeth yr Almaen gyda'i system gofal iechyd gadarn a'i darpariaeth gymdeithasol hael i frig yr Indecs, gyda Phrydain yn ail agos ac yna wledydd Sgandinafia. Fodd bynnag, dangosodd yr Indecs nad y gwledydd mwyaf blaenllaw yn hyn o beth yw unig ffynonellau ymarfer gorau'n ymwneud ag integreiddio rhai gyda salwch meddwl ac na ddylai'r gwledydd ar frig yr Indecs fod yn hunanfodlon chwaith ynghylch gweithredu polisïau’n ymwneud ag integreiddio.
Yn ôl y darganfyddiadau, cyflogaeth yw'r maes sy'n peri pryder fwyaf i rai gyda salwch meddwl. Roedd hyn yn hysbys eisoes, ond mae'r MHII yn cadarnhau hyn a hefyd yn dangos mai hwn yw'r polisi integreiddio sydd fwyaf anghyson ar draws Ewrop.
Mae'r MHII yn cadarnhau'r ffaith mai buddsoddi gwirioneddol yw'r hyn sy'n gwahanu'r rhai sy'n rhoi sylw i'r mater oddi wrth y rhai sydd ond yn llunio polisïau dyheadol. Yn ôl yr adroddiad, mae'n rhaid cael ewyllys wleidyddol i gyd-fynd â pholisiau dyheadol a rhaid rhoi sylw i ddiffygion mewn cyllidebau a chydlynu gwael rhwng gwasanaethau.
Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion pwysig er mwyn gwella integreiddio pobl sy'n byw gyda salwch meddwl i gymdeithas. Mae'r rhain yn cynnwys casglu gwell data yn holl feysydd darpariaeth feddygol a gwasanaethau a rhoi cyllid priodol ar gyfer polisïau iechyd meddwl. Hefyd mae angen cwblhau'r dasg, sydd wedi ei dechrau ers degawdau, o symud cefnogaeth o ysbytai i'r gymuned a chanolbwyntio ar y dasg galed o ddarparu gwasanaethau integredig yn y gymuned. Mae yna angen arbennig am ddarparu gwasanaethau cyflogaeth integredig, gan mai polisïau ar integreiddio cyflogaeth yw'r mwyaf anghyfartal o'r polisïau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2014