Arbenigwyr canser yn dod ynghyd mewn Cynhadledd ym Mangor
Ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon, bydd cynrychiolwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn dod ynghyd ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer yr ail gynhadledd sy'n edrych ar sut y gellir darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion sydd â chanser mewn ardaloedd gwledig.
Mae’r Gynhadledd yn fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ysgol Glinigol Gogledd Cymru.
Eglurodd Matt Makin sy’n Athro Gwadd ac yn Bennaeth Staff Canser Betsi Cadwaladr:
“Mae ceisio darparu gofal effeithiol i gleifion canser ar hyd a lled ardal wledig fel gogledd Cymru, sy’n ardal fawr ac yn eithaf prin ei phoblogaeth, yn her wahanol iawn i redeg gwasanaethau mewn dinas fawr. Themâu’r gynhadledd eleni yw sut yr ydym yn cwrdd â’r her o sicrhau diagnosis cynnar o ganser a sut ydym ni’n cefnogi ac yn rhoi gofal dilynol i gleifion ar ôl iddynt gael triniaeth canser. Y mater arall byddwn ni’n ei drafod yw sut yr ydym yn cwrdd â'r her o ddarparu gofal canser modern ar adeg anodd yn ariannol.
“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd wedi ei gyflawni ym maes Gwasanaethau Canser ar draws Gogledd Cymru a gobeithiwn y bydd y Gynhadledd yn gatalydd i ddatblygiadau pellach, yma ac i’n cydweithwyr mewn rhannau eraill o Brydain."
Dywedodd yr Athro Nick Stuart, sy’n Athro Astudiaethau Canser ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae’r Brifysgol yn falch o groesawu’r gynhadledd hon sy’n dangos y cydweithio agos cynyddol rhwng y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd. Mae’r gynhadledd yn tynnu sylw at nifer o heriau allweddol a wynebir gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac ni ellir eu datrys heb sicrhau cydweithio rhwng ymchwilwyr ac arbenigwyr iechyd.”
Mae’r siaradwyr yn y Gynhadledd yn cynnwys:
Yr Athro Willie Hamilton, Athro Diagnosteg Gofal Sylfaenol, Peninsula College of Medicine and Dentistry, yn siarad am “The mistakes we make in cancer diagnosis”.
Bydd Dr. Richard Neal, Uwch Ddarlithydd Clinigol yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, yn gofyn; “How much does early diagnosis matter?”
Bydd yr Athro Eila Watson, Athro Gofal Canser Cefnogol HRH Prince Sultan, Adran Gofal Iechyd Clinigol, Prifysgol Oxford Brookes yn gofyn y cwestiwn; “Where next for the cancer survivor?”
Bydd Dr. Geoffrey Carroll, Cyfarwyddwr Meddygol, Tîm Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru yn ystyried “Access to higher cost cancer care … is possible within a shrinking NHS?”
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2011