Arbenigwyr Cymysgu Moroedd yn dod i Fangor
Mae arbenigwyr cymysgu moroedd o bob cwr o'r byd yn dod i Ganolfan Môr Cymru ym Mhrifysgol Bangor i weithdy rhyngwladol ar gymysgu moroedd (11-13 Gorffennaf).
Bydd gwyddonwyr o mor bell i ffwrdd â'r Unol Daleithiau, Tsieina a Rwsia, yn ogystal â chyfandir Ewrop a Gwledydd Prydain, yn trafod ymdrechion byd-eang i wella ein dealltwriaeth o'r prosesau sy'n ysgogi'r cefnforoedd a sut y dylid cynrychioli'r prosesau hynny mewn modelau rhagolygon tywydd a hinsawdd.
Meddai'r Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau'r Eigion:
"Mae'r cefnforoedd yn chwarae rhan allweddol yn system hinsawdd y ddaear, maent yn symud gwres o amgylch sy'n arwain at amodau hinsawdd anarferol o dymherus i leoedd fel Gwledydd Prydain o'i gymharu â mannau eraill ar yr un lledred.
"Maent yn un o brif 'sinciau' natur, gan eu bod yn amsugno ac yn storio carbon deuocsid o'r atmosffer, ac felly mae'r cefnforoedd ar hyn o bryd yn gweithio i wneud iawn am effaith allyriadau CO2 ar yr hinsawdd o achos dyn.
"Ac eto, mewn llawer o achosion, ni chaiff y prosesau sy'n gyfrifol am droi'r môr eu cynrychioli'n dda yn y modelau cyfrifiadurol o'r môr a'r hinsawdd a ddefnyddir i lunio rhagolygon o'r tywydd a newid yn yr hinsawdd."
"Yn y gweithdy hwn, byddwn yn clywed am ymchwil blaenllaw sy'n arsylwi'r cynnwrf cefnforol sy'n gyfrifol am yrru'r cymysgu, yn ogystal â thrafod yr ymdrechion i ymgorffori'r prosesau hyn yn y modelau rhagolygon cyfrifiadurol, gyda'r nod o wella rhagolygon y tywydd a hinsawdd."
Mae'r tîm Eigioneg Ffisegol yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn arwain y byd yn y gwaith o fesur cynnwrf yn y môr. Nodwyd yn astudiaeth achos y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 bod gan eu hymchwil effaith fyd-eang: “Turbulence research improves ocean forecasting and marine energy infrastructure”.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017