Arbenigwyr Iaith Blaenllaw yn Ymweld â Bangor
Daeth arbenigwyr o bob cwr o’r byd i Fangor yr wythnos diwethaf i rannu eu profiadau ac i esbonio sut gellid dysgu ieithoedd tramor yn llwyddiannus.
Hwn oedd yr ail dro i Sefydliad Conficius o Brifysgol Bangor drefnu cynhadledd fel hon, a llwyddwyd i ddenu dros 70 o gynadleddwyr o Brydain, Ffrainc, Rwsia a Romania i Fangor. Ei nod oedd i rannu profiadau ymchwil, rhannu arferion da wrth ddysgu ieithoedd modern, ac i ennyn trafodaethau a thrafod syniadau ar sut i ddysgu iaith dramor fodern yn llwyddiannus. Cynrychiolwyd 20 o Brifysgolion yn y gynhadledd deuddydd oedd yn cynnwys 22 o anerchiadau gwahanol gan arbenigwyr gan gynnwys agweddau gwahanol ac anarferol o ddysgu Tsieineeg fel ail iaith, dulliau o ddysgu ieithoedd modern yn yr India, dysgu Tsieineeg fel ail iaith yn y byd busnes, dysgu Tsieineeg at ddibenion cyfieithu dogfennau cyfreithiol ynghyd â sut mae Tsieineeg yn cael ei ddysgu o fewn y cwricwlwm yng Nghymru.
Ar ran y trefnwyr, dywedodd Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Conficus Prifysgol Bangor,
“Gan adeiladu ar lwyddiant ein cynhadledd gyntaf ni llynedd, ein nod ni yn y gynhadledd eleni oedd i archwilio’r amrywiaeth o arferion addysgu mewn ysgolion a phrifysgolion a darganfod arferion newydd fyddai’n gallu cyfrannu at ragoriaeth mewn addysgu ynghyd â gwella profiad y dysgwr. Ein gobaith ni rwan yw y bydd y cynadleddwyr yn mynd â’r hyn ddysgon nhw ym Mangor yn ôl i’w hysgolion a’u prifysgolion eu hunain a defnyddio’r wybodaeth newydd wrth rannu syniadau gyda’u cydweithwyr a’u myfyrwyr.”
Dywedodd yr Athro Joël Bellassen, Llywydd y Gymdeithas Ewropeaidd Addysgu Tseineaidd ac un o brif annerchwyr yn y Gynhadledd,
“Yn aml, cynadleddau academaidd bychain yw'r rhai mwyaf boddhaus. Roedd themâu'r papurau academaidd eleni o berthnasedd addysgegol, gwreiddiol a ffeithiol mawr ac roedd ansawdd y trafodaethau ac ymateb y gynulleidfa hefyd yn tystio i lefel uchel y gynhadledd hon. Derbyniodd y cynadleddwyr y croeso mwyaf gofalus a chynhesaf gan Dr Lina Davitt, ac roedd yn anrhydedd cymryd rhan mewn digwyddiad mor arbennig yng nghanol tirlun hudol gogledd Cymru.”
Mae Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor yn sefydliad canolog aml-ddisgyblaethol o’r Brifysgol a’i nod yw rhoi cyfle i bobl gogledd Cymru gael blas ar ddiwylliant ac iaith Tsieina a dysgu mwy amdanynt. Am fwy o fanylion, ewch yma.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019