Arbenigwyr Prifysgol yn croesawu camau i atal chwant bwyd ymysg plant
Mae arbenigwyr addysg o Brifysgol Bangor wedi croesawu mentrau fel Rhaglen Newyn Gwyliau (Holiday Hunger) Cyngor Sir y Fflint, sy'n ceisio rhoi sylw i dlodi sy'n gysylltiedig â chwant bwyd tu allan i adegau tymor ysgolion.
Mae ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Bangor i effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad academaidd plant mewn ysgolion gwledig yng Nghymru wedi dangos bod chwant bwyd yn effeithio ar lefelau canolbwyntio plant mewn ysgolion cynradd yn arbennig, a bod hyn yn lleihau i ryw raddau mewn ysgolion uwchradd.
Fe wnaeth disgyblion o gamau allweddol 2 a 4 o'r holl ysgolion a samplwyd ar gyfer yr ymchwil: (Re-Thinking Educational Attainment and Poverty – REAP yng Nghymru wledig), nodi eu bod yn aml yn colli dau bryd bwyd yr wythnos, naill ai gartref neu yn yr ysgol.
Diffiniwyd chwant bwyd fel anallu i gael neu fwyta bwyd o ansawdd neu o swm digonol mewn ffyrdd sy'n dderbyniol yn gymdeithasol, neu'r ansicrwydd o fedru gwneud hynny. Roedd hynny'n destun pryder ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd a samplwyd fel rhan o'r ymchwil, gan ddangos bod rhai plant yn mynd heb y tri phryd y mae arnynt ei angen bob dydd.
Meddai'r Athro J. Carl Hughes, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI), a Phennaeth yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, ym Mhrifysgol Bangor:
"Er bod gan ysgolion ran allweddol i'w chwarae mewn mynd i'r afael â thlodi a'i effeithiau ar addysg a lles plant, mae'n amlwg nad yw'r ysgol ond un rhan o'r ateb pan mae'n dod yn fater o ddatrys tangyflawni ac anghydraddoldeb. Dyna pam rydym yn croesawu cynlluniau fel Rhaglen Holiday Hunger Sir y Fflint, sy'n darparu prydau bwyd am ddim i blant yn ystod gwyliau'r haf.
"Fe all yr ysgolion addysgu, dilyn cynnydd ac ymwneud â theuluoedd, ond mae angen i'r gymuned rannu adnoddau a doethineb a dylai sefydliadau eraill rannu arfer da. Mae'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth ac adeiladu cymunedau sy'n cymryd cyd-gyfrifoldeb dros dangyflawni, a sicrhau y cefnogir hynny drwy gydlynu strategaethau gwrth-dlodi'n well ar draws awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau an-llywodraethol," ychwanegodd.
Meddai Gwilym Siôn ap Gruffudd, a arweiniodd y tîm o ymchwilwyr o'r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol:
"Fe wnaeth ein hymchwil gynhwysfawr ofyn i blant a phobl ifanc sut roedd chwant bwyd yn effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio a'u cyrhaeddiad academaidd mewn ysgolion.
O ganlyniad i'r gwaith hwn, gyda dau o ddarparwyr gwasanaethau i wella ysgolion, fe wnaeth Llywodraeth Cymru'n ddiweddar gynyddu swm yr arian sydd ar gael mewn ysgolion yng Nghymru i'w galluogi i roi sylw i rai o effeithiau tlodi yn eu cymunedau. Caiff y gronfa, sef y Grant Datblygu Disgyblion (GDD), ei phennu yn ôl nifer y disgyblion sy'n derbyn prydau bwyd am ddim ym mhob ysgol ac mae'n ffynhonnell allweddol o gyllid ychwanegol i ysgolion.
Ffactor arall bryderus a ddaeth i'r amlwg yw nad yw prydau ysgol am ddim yn cael eu hawlio gan rai sydd â hawl iddynt mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Gallai hyn ddeillio o amharodrwydd, neu swildod cymdeithasol efallai, yn y cymunedau hyn i wneud cais am brydau ysgol am ddim. Mae angen i ni gael gwared ar y stigma ynghylch hyn mewn ysgolion a newid y diwylliant sy'n gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim a chynnig cymorth i gymunedau," ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2018