Arbenigwyr yn dod ynghyd i drafod y cyfryngau a hawliau dynol
Wrth i gyfreithwyr ac ymgyrchwyr hawliau dynol gadw golwg ar feysydd brwydr yn y Dwyrain Canol, bydd cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yn mynd i'r afael â llawer o'r materion sy'n codi yn sgil gwrthdaro o'r fath ar draws y byd.
Mae cynhadledd flynyddol Grŵp y Cyfryngau a Gwleidyddiaeth y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol ar y Cyfryngau, Perswâd a Hawliau Dynol yn cael ei chynnal ar Dachwedd 10 ac 11.
Bydd y gynhadledd ryngddisgyblaethol yn croesawu academyddion blaenllaw o feysydd y Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth, Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg a'r Gyfraith.
Ymysg y prif siaradwyr bydd Yr Athro Sue Clayton o Brifysgol Goldsmith, gwneuthurwr ffilmiau arobryn sydd yn ymdrin yn ei gwaith â ffurfiau amgen o gyflwyno materion hawliau dynol, lloches a hunaniaeth.
Ymysg y siaradwyr eraill y mae'r Athro Jon Silverman o Brifysgol Bedfordshire, cyn ohebydd Materion Cartref y BBC sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, sydd yn gweithio ar hyn o bryd ar ddylanwad adroddiadau yn y cyfryngau am dreialon troseddau rhyfel ar y gymdeithas sifil yng ngorllewin Africa.
Meddai un o'r trefnwyr, Dr Vian Bakir o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau: "Mae angen cytundeb rhwng pawb ynghylch beth yw hawl ddynol, a sut y dylid ei gwarchod neu ei gorfodi.
"Mae'r cyfryngau'n chwarae rhan ganolog yn y broses hon. Trwy ailadrodd negeseuon maent yn atgyfnerthu gwerth absoliwt rhai hawliau dynol, megis rhyddid rhag artaith, ond maent yn ein hatgoffa bod hawliau dynol eraill yn amodol, megis rhyddid ymadrodd.
"Trwy eu gwaith datgelu, maent yn dangos sut mae hawliau dynol yn cael eu hanwybyddu, yn ysgogi'r cyhoedd mewn gwahanol wledydd i ymladd dros hawliau dynol ac yn annog camau gweithredu adferol.
"Ond nid yw'r cyfryngau'n fonolithig ac mae hawliau'n faes cymhleth, sydd yn aml yn gofyn am gyfaddawdu a chadw'r ddysgl yn wastad (e.e. ydyw'r angen i sicrhau diogelwch y wlad yn drech na'r hawl i breifatrwydd?)
"Byddwn yn archwilio sut mae cyfaddawdu o'r fath yn cael ei gyfathrebu; sut mae'r cyfryngau'n gweithio i ysgogi'r cyhoedd; a pha hawliau sy'n cael mwy o sylw nag eraill.
"Yn y cyfryngau ar eu newydd wedd, byddwn yn gofyn hefyd pa gyfleoedd a heriau newydd a gynigir gan dechnolegau'r cyfryngau i hawliau dynol sy'n dibynnu yn eu hanfod ar y cyfryngau, megis yr hawl i breifatrwydd a rhyddid ymadrodd."
Caiff cynrychiolwyr sefydliadau gofrestru ar gyfer y gynhadledd o hyd, a chaiff y cynrychiolydd cyntaf o unrhyw sefydliad sy'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â hawliau dynol ddod am ddim.
Trefnwyd y gynhadledd gan staff yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. a Rhwydwaith Astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu Perswadiol y brifysgol sy'n croesawu'r cynrychiolwyr yn swyddogol.
Cefnogir y gynhadledd hefyd gan BBC Monitoring, sy'n monitro'r cyfryngau ar draws y byd, tra ar yr un pryd yn dadansoddi hawliau dynol a llawer o bynciau eraill.
Ceir manylion pellach yma.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2014