Archesgob Caergrawnt yn anrhydeddu Athro o Fangor
Mae Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams, wedi cyhoeddi bod yr Athro John Harper, athro ymchwil mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill gradd Doethur mewn Cerddoriaeth. Mae’r Archesgob yn ysgrifennu bod y cymhwyster yn cydnabod cyfraniad clodwiw’r Athro Harper at ddatblygiad cerddoriaeth eglwysig a’i gwerthfawrogiad fel ysgolhaig, gweinyddwr, addysgwr a chyfansoddwr, ac at well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng cerddoriaeth a litwrgi’r eglwys.
Medd yw Athro Harper: ‘Er i’r gwaith a wnes i, a’r bobl y bûm yn gweithio â hwy, fod yn ddigon o wobr ynddynt eu hunain, mae’r cymhwyster hwn yn gadarnhad o bwys, nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb y bûm yn gweithio gyda hwy ac yn eu haddysgu.’
Wrth gyflwyno’r radd, mae Archesgob Caergrawnt yn defnyddio hawl unigryw a roddwyd gan Ddeddf Seneddol ym 1533 i ddyfarnu graddau ar sail ysgolheictod a dysg. Cyflwynir y radd Doethur mewn Cerddoriaeth mewn seremoni arbennig i’w chynnal ym Mhalas Lambeth ar 9 Tachwedd 2010.
Mae John Harper yn Athro Ymchwil mewn Cerddoriaeth Gristnogol a Litwrgi ym Mangor, ac yn un o gyfarwyddwyr gwreiddiol y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig. Ar hyn o bryd, mae’n arwain project ymchwil o bwys dan nawdd ESRC/AHRC, ar The Experience of Worship. Daeth i Fangor yn gyntaf fel Athro Cerddoriaeth ym 1991, lle ehangodd waith yr Adran Gerddoriaeth a sefydlu cyfres o fentrau mewn astudiaethau ar gerddoriaeth Cymru ac ymchwil iddi. O 1998 tan 2007, bu’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol ar yr Ysgol Frenhinol dros Gerddoriaeth Eglwysig (RSCM), ond cadwodd ei gysylltiad â’r Brifysgol fel athro ymchwil, gan sefydlu cydweithrediad rhwng y Brifysgol a’r RSCM yng nghyswllt astudiaethau ar gerddoriaeth gysegredig. Yn yr RSCM, symudodd ymlaen â llawer o fentrau newydd ym myd cerddoriaeth, addysg gerddorol a chyhoeddi ar gyfer eglwysi a cherddorion eglwysig. Dychwelodd i Ogledd Cymru yn 2008, i ganolbwyntio ar ddatblygu astudiaethau ym maes cerddoriaeth gysegredig yn y Brifysgol, ac ar ysgrifennu ac ymchwil.
Mae’r Athro Harper wedi treulio’r rhan helaethaf o’i yrfa yn ymwneud, rywfodd neu’i gilydd, â cherddoriaeth eglwysig. Yn ystod y 1970au, bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yn Eglwys Gadeiriol St Chad yn Birmingham, gan dderbyn gwobr Benemerenti gan y Pab Paul VI ym 1978 am ei wasanaethau. Fel organydd, cymrawd a thiwtor yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, o 1981 tan 1990, bu’n cyfarwyddo côr adnabyddus y coleg. Mae hefyd yn gyfansoddwr, a’i weithiau’n cynnwys Jubilate a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer ymweliad y Frenhines ag Eglwys Gadeiriol Bangor ar gyfer dathliad y Jiwbilî Aur yng Nghymru yn 2002, a gosodiad dwyieithog o’r Cymun ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru – Cymun y Cymry. Y rhan fwyaf o’r Suliau, mae’n chwarae’r organ yn eglwys blwyf y Santes Fair, Llanfair Pwllgwyngyll.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010