Archif y mis
Llun: Darluniau gwerthfawr o'r Oriel Genedlaethol yn cael eu dadlwytho yn Neuadd Prichard-Jones ym 1939.
Ym 1938, cynhaliwyd trafodaethau cyfrinachol ar gais yr Oriel Genedlaethol i gadw gweithiau celf gwerthfawr yn Neuadd Prichard Jones pe bai'n dod yn rhyfel.Edrychwyd ar nifer o adeiladau eraill yn yr ardal gan swyddogion yr Oriel Genedlaethol, ac roedd Neuadd Prichard-Jones (ynghyd â Chastell Penrhyn) yn gwneud Bangor yn 'admirable clearing-house as well as storage space'. Mewn gwirionedd , bu'n rhaid gwneud addasiadau pur helaeth i'r Neuadd ( yn cynnwys gosod barrau dur ar y ffenestri) er mwyn cadw'r darluniau yno.
Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2013