Archif y mis
Llun anarferol o anffurfiol o wragedd a phlant rhai o brif ddarlithwyr y Coleg, c. 1900.
Rhes gefn: Mrs Mary Reichel (gwraig Syr Harry Reichel, Prifathro); Mrs Kitson (chwaer Mrs Reichel); Mrs Spencer (gwraig Frederic Spencer, Ieithoedd Modern)
Rhes ganol: Plant Mr a Mrs Dobbie fe dybir, sef Mary, Violet, Alec, Jim
Rhes flaen: Mrs Violet Osborn Arnold (gwraig Athro E.V. Arnold, Lladin); Mrs Dobbie (gwraig Athro J.J. Dobbie Cemeg a Geoleg); Mrs Gibson (gwraig Athro J. Gibson, Rhesymeg, Athroniaeth ac Economeg Wleidyddol); Mrs Lloyd (gwraig Athro J.E. Lloyd, Hanes)
Yn ddiweddarach yn hanes y Brifysgol, yn 1930au, ffurfiwyd clwb arbennig i ferched a ddaeth i gael ei adnabod fel yr “SRC Wives Club”. Ymysg pethau eraill byddai’r aelodau yn gyfrifol am drefnu rhaglen o ddarlithoedd, nosweithiau o giniawa a phartion Nadolig i blant. Diddymwyd y clwb yn 2006.
Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2013