Archif y mis
Papurau’r Rhingyll Ivor Glyn Jones (1921- 1943)
Llun: Llyfr cofnodion hedfan o eiddo’r Rhingyll Ivor Glyn Jones, sy’n rhoi manylion am ddyddiad, awr, math o awyren, rhif a pheilot pob ehediad, ynghyd â sylwadau ar y pwrpas neu’r gyrchfan – wedi’i lofnodi gan Guy Gibson, Asgell-Gomander.VC. DSO. DFC. O/C 617 SGDN.
Mewnosodiad: I.G. Jones mewn lifrai Gynnwr Awyr, a’r Asgell-Gomander Guy Gibson gyda Sgwadron 617 (blaen, canol).
Gwasanaethodd Ivor Glyn Jones o Rallt, Rhosmeirch, Ynys Môn, Rhingyll 1054939 [Gynnwr Awyr], yn Sgwadron 617 dan Guy Gibson yn ystod yr Ail Ryfel Byd (er nad oedd yn un o’r dynion a gymerodd ran ym mhroject enwog y ‘Dambusters’). Ar 16 Medi 1943, cyhoeddwyd ei fod ar goll, ac y tybid ei fod wedi marw.
Ar 21 Mawrth 1943, cyfarwyddwyd yr Asgell-Gomander 24-oed Guy Gibson i ffurfio sgwadron newydd i ymgymryd â phroject arbennig, sef cyrch y ‘Dambusters’; rhif 617 oedd y Sgwadron, ac roedd y neges lwyr gyfrinachol, a gafodd yr enw cod ‘Operation Chastise’, yn gofyn am i awyrennau daro argaeau yng nghalon ddiwydiannol yr Almaen. Cyfanswm o 19 o awyrennau bomio Lancaster, a chriw o 7 ym mhob un ohonynt, a ymadawodd ar 16 Mai 1943. Targedwyd argaeau Möhne ac Eder yn Nyffryn Ruhr a’u torri’n llwyddiannus, gan foddi ardal eang a gorlifo llawer o ffatrïoedd, a chan ddifrodi neu ddinistrio pwerdai, cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau eraill.
Ar ôl y cyrch, dychwelodd yr 11 o awyrennau Lancaster a oedd wedi goroesi i’w gorsaf gartref, sef RAF Scrampton. Roedd y weithred yn llwyddiannus, ond ar gost uchel: Lladdwyd 53 o ddynion, daeth 3 yn garcharorion rhyfel, a chollwyd 8 awyren. Cyflwynwyd medalau i 33 o’r criw awyr a ddychwelodd, a chafodd Gibson Groes Victoria am ei ddewrder a’i arweiniad nodedig.
Mae mwy o ddeunydd ynglŷn â’r Rhingyll Ivor Glyn Jones a Sgwadron 617 i’w gweld yn yr Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig.
Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2013