Archif y mis
ARCHIF Y MIS: Eisteddfod Llandudno 1896
Cynhaliwyd seremoni’r Orsedd i agor Eisteddfod Llandudno yn “Happy Valley”. Yr Archdderwydd ar gyfer y flwyddyn honno oedd Hwfa Môn (sydd i’w weld yma yn sefyll ar un o gerrig yr Orsedd). Mae’r faner wedi ei brodio mewn aur gyda dail derw, cennin ac uchelwydd. Roedd arni hefyd ddraig goch ar ganol haul disglair ac arwyddeiriau’r Orsedd : “Yng ngwyneb yr haul llygad goleuni”, “Y Gwir yn erbyn y Byd”
Eleni, cynhelir yr Eisteddfod yn Ninbych gyda’r Archdderwydd benywaidd cyntaf yn arwain y prif seremonïau, Christine James.
Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2013