Archif y mis
Archif y mis: Castell Conwy a Phont Grog Telford
Llun o Gastell Conwy a Phont Grog Telford, diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tynnwyd y llun cyn i'r bont ddiweddarach dros Afon Conwy gael ei hadeiladu yn 1958. Y bont honno a ddefnyddiwyd gan gerbydau ar yr A55 nes i Dwnnel Conwy gael ei adeiladu yn 1991. Dychmygwch y tagfeydd traffig fyddai yna heddiw pe bai hon yr unig bont dros yr afon o hyd!
O Gasgliad R.T. Pritchard.
Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2013