Archif y mis
Archif y mis: Coch Bach y Bala
Fel John Jones y cafodd ei fedyddio ond fel Coch Bach y Bala neu i fod yn fanwl gywir Coch Bach Llanfor y daeth i gael ei adnabod. O ran galwedigaeth, os hynny yw’r gair, lleidr ydoedd ond un pur aflwyddianus gan iddo dreulio cyfnodau hir yn y carchar. Ond prif orchest y Coch a ddaeth ac enwogrwydd iddo oedd ei allu i ddianc o gell yr heddlu neu o’r carchar. Ym 1879, er dirfawr embaras i swyddogion carchar Rhuthun dihangodd drwy gerdded allan drwy ddrws ffrynt y carchar! Erbyn 1913 ac yntau yn driugain oed mi ‘roedd y Coch Bach wedi treulio yn agos i hanner ei fywyd dan glo ond mi ‘roedd yr ysfa i ddwyn yn dal ynddo. Ym mis Mehefin y flwyddyn honno anfonwyd ef i garchar Rhuthun am dorri mewn i swyddfa cyfreithiwr yn y Bala.O gofio ei ddawn i ddianc mi ‘roedd awdurdodau’r carchar yn cadw golwg barcud arno ond yn amlwg ddim yn ddigon gofalus oherwydd yn niwedd Medi mi ‘roedd wedi llwyddo i gael ei draed yn rhydd. Ar Hydref y 6ed gwelwyd ef ger Pwllglas gan fyfyriwr 19 oed , Reginald Jones Bateman, Eyarth House oedd yn saethu petris. Gwaeddodd ar i’r Coch aros ond ffoi wnaeth hwnnw i gyfeiriad ryw goedlan fechan. Taniodd Bateman ato gan ei daro yn ei goes. Disgynodd Coch Bach ac oherwydd i’r ergyd dorri y wythien fawr yn ei goes a’r ffaith ei fod dan wendid oherwydd diffyg bwyd bu farw o fewn munudau. Pan gyrhaeddodd y newydd am ei ladd i dref y Bala mi ‘roedd yna dristwch a rhywfaint o ddicter ei fod wedi colli ei fywyd yn y fath fodd. Dygwyd achos o ddyn laddiad yn erbyn Bateman ond taflwyd yr achos allan yn llys yr Ynadon. Ar Hydref 13, 1913 claddwyd Coch y Bala yn mynwent Eglwys Llanelidan gyda’r tynnwr lluniau lleol Lewis Edwards Price yno i nodi’r achlysur.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2013