Archif y mis
Arolwg stad Bodorgan a wnaed gan Lewis Morris 1724-1727
Bodorgan 1579
Brodor o Fôn oedd Lewis Morris ac yn aelod o deulu enwog Morisiaid Môn . Yn ei ugeiniau yr oedd ganddo fusnes fel mesurwr tir a chyflogwyd ef yn 1724 i wneud arolwg o stad Owen Meyrick, sgweier Bodorgan - bu'r cyswllt hwn yn fanteisiol iawn iddo ef ac i'w frodyr. Yn 1729 penodwyd ef yn chwiliwr i'r dollfa ym mhorthladd Biwmares a Chaergybi, a daliodd y swydd honno hyd 1743, eto heb ollwng ei fusnes fel mesurwr tir. Trwy ddylanwad teulu Bodorgan ar Thomas Corbett o swyddfa'r llynges, cyflogwyd ef mor gynnar â 1737, i wneud arolwg o rai o borthladdoedd Cymru. Erbyn 1742 yr oedd Lewis Morris wedi symud i Geredigion i chwilio am blwm, bu â’i fys mewn sawl antur yn y diwydiant hwnnw. Breuddwydiai’n gyson am y ffortiwn a fyddai’n sicr o ddod i’w ran rhyw ddydd. Ni ddaeth serch hynny, a bu farw’n gymharol dlawd yn 1765 a’i gladdu o flaen yr allor yn eglwys Llanbadarn Fawr.
Mis Tachwedd bydd lansiad ‘Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru’ yn y Brifysgol a fydd yn ymroddi i ehangu gwybodaeth am ystadau yng Nghymru drwy ymchwil, addysgu a chyhoeddiadau
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae’r Archifdy yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2013