Archif y mis
Rysait mins peis o’r 18fed ganrif
A hithau’n dymor y Nadolig bellach, rwy’n sicr bod nifer ohonoch wedi blasu ambell fins pei yn barod.
Tybed a wyddoch chi mai, yn wreiddiol, byddai briwgig yn cynnwys cymysgedd o gig, ffrwythau a pherlysiau ?
Dyma rysait am fins peis o’r 18fed ganrif o lawysgrif yng nghasgliad Henblas. Sylwer mai tafod neu gig eidion wedi’i dorri’n fân a siwed cig eidion oedd ymysg y cynhwysion.
Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2013