Archif y mis
A ellwch chi helpu i adnabod lleoliad y ffotograff hanesyddol hwn?
Mae gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Bangor gyfoeth o ffotograffau hanesyddol sy’n dogfennu’r gorffennol; fodd bynnag, mae gennym nifer o ddelweddau o leoedd a phobl o’r ardal na fuom yn gallu eu hadnabod.
Yr unig wybodaeth sydd ynghlwm wrth y ddelwedd hon yw ei bod wedi’i lleoli ym Mangor. Tybed a allech chi adnabod yr union ardal a’r digwyddiad a geir o fewn y ffotograff hwn?
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Lynette l.d.williams@bangor.ac.uk
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae’r Archifdy yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2014