Archif y mis
Cerdyn Sant Ffolant
Efallai eich bod wedi methu dydd Santes Dwynwen ond mae cyfle o hyd i chi ddatgan eich cariad drwy anfon cerdyn rhamantus ar ddydd Sant Ffolant.
Dyma enghraifft o gerdyn Sant Ffolant sy’n dyddio o’r 19eg ganrif sydd i’w ddarganfod ymysg llawysgrifau Bangor.
Daeth rhain yn boblogaidd iawn ar ddechrau’r ganrif honno a chynhyrchwyd rhai crand iawn gyda lês a rhubannau.
Dyma’r geiriau sy’n ymddangos ar y cerdyn :
“Already hast thou fondly vowed
That I shall call thee mine
And now what else remains but this
That you my Valentine
Shall fix upon that wished for day
When linking hand in hand
United, we shall both before,
The sacred alter stand”
Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2014