Archif y mis
Sefydliad y Merched, Llanfair Pwllgwyngyll
Dyma dudalen o lyfr cofnodion Sefydliad y Merched, Llanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn, Medi 1915.
Gallwn ddilyn gwreiddiau Sefydliad y Merched, y WI, yn ôl i Stoney Creek, Ontario, Canada yn 1897. Pwrpas gwreiddiol y mudiad oedd cefnogi merched o ardaloedd gwledig drwy roi hyfforddiant mewn economeg y cartref, gofal plant, a ffermio. Sefydlwyd y gangen Brydeinig gyntaf yn Llanfair Pwllgwyngyll ar 16eg o Fedi 1915. Bwriad sylfaenol y mudiad Brydeinig oedd helpu gyda’r ymdrech rhyfel, yn enwedig drwy ddysgu merched sut i dyfu a chadw bwyd .
Bydd y llawysgrif hon i’w gweld yn rhodfa’r Is-Ganghellor o’r 8fed o Fawrth hyd at 31ain o Fawrth 2014 fel rhan o’r arddangosfa “Rhoi Grym i Ferched Mewn Adeg o Lymder”.
Mae’r arddangosfa yn ddathliad o 20 mlynedd o’r MA Astudiaethau Merched ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n cynnwys deunydd archifol ym Mhrifysgol Bangor sy’n cydnabod gwaith mudiadau a chymdeithasau sydd wedi llwyddo i roi grym i ferched mewn adeg o lymder yn y gorffennol. Mae themâu fel y bleidlais, addysg a rhyfel, a roddodd rym i ferched, i gyd yn cael eu cynrychioli yn yr arddangosfa. Drwy ddwyn sylw at y casgliadau hynod sy’n ymwneud â merched yn yr Archifdy, gobeithio y bydd myfyrwyr heddiw, ar y cwrs Astudiaethau Merched, yn canfod prosiectau ymchwil ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Mae’r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2014