Archif y mis
Cyfrifiad Biwmares 1821
Cynhaliwyd cyfrifiad Biwmares ym 1821. Lluniwyd dwy gyfrol – mae’r ail gyfrol hon yn rhestru enwau’r penteuluoedd ac yn nodi faint o deuluoedd oedd yn byw ym mhob tŷ. Hefyd ceir gwybodaeth ynglŷn â galwedigaeth y trigolion. Gofynnwyd i bob teulu nodi os oeddynt un ai yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol, y diwydiannau masnachol, gweithgynhyrchu a chrefftau, neu unrhyw faes arall.
Mae’r Archifau bellach yn cynnig mynediad am ddim i Find My Past. Dyma’r adnodd perffaith ar gyfer haneswyr teulu a bydd modd ei ddefnyddio ochr yn ochr â’n llawysgrifau gwreiddiol megis cyfrifiad Biwmares 1821. Cysylltwch â’r Archifdy am ragor o fanylion.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae’r Archifdy yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2014