Archif y mis
Diogelu’r Papurau ar Gaethweision Jamaica yng Nghasgliad Penrhyn
Yn ddiweddar, cafodd yr Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig grant o £12,000 gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol tuag at warchod rhai o gyfrifon bregus yr ystadau Jamaicaidd a oedd ym mherchnogaeth y Teulu Pennant o Gastell Penrhyn, Gogledd Cymru. Mae’r cyfrifon hyn yn cynnwys enwau, swyddogaethau a manylion eraill yng nghyswllt caethweision a weithiai ar yr ystâd, ac maent o gryn ddiddordeb hanesyddol i haneswyr ac achyddion fel ei gilydd. Maent yn ddogfennau trawiadol a hefyd yn peri gofid, wrth i gaethweision gael eu ‘cyfrif’ fel adnoddau; er enghraifft, cyfeirir at farwolaeth fel ‘lleihad yn nifer y caethweision’ ac at enedigaeth fel ‘cynnydd mewn caethweision’. Maent yn dystiolaeth o oes greulon, giaidd a rhagfarnllyd, ac o bwysigrwydd i dreftadaeth Jamaica yng nghyd-destun y fasnach gaethweision ar draws y byd.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae’r Archifdy yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014