Archif y mis
Sefydlu Urdd Gobaith Cymru
Yma, fe welwch ddogfen ddifyr iawn sy’n cyd-fynd â’r ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop a gynhaliwyd yn y Bala fis diwethaf, sef Eisteddfod yr Urdd.
Dyma broflen o gynlluniau cynnar Syr Ifan ab Owen Edwards i sefydlu “Urdd Gobaith Cymru Fach” yn ôl ym 1921. Mae’n cychwyn ei apêl fel hyn: “Saif yr iaith Gymraeg mewn mwy o enbydrwydd heddyw…yn hwyrach nac y bu hi ynddo erioed o’r blaen. A yw gwerin Cymru yn sylweddoli hyn?”
Ymysg yr addewidion y dylid cytuno i’w cadw fel aelod o’r Urdd oedd :
“i. Fod yn driw i Gymru a’r Gymraeg
ii. Y dysgaf Hanes Cymru ac y darllennaf lyfrau Cymraeg
iii. Y gwnaf fy ngoreu dros bob Cymro, a thros fy nghyd-ddyn i ba wlad bynag y perthyn”
Fel y gwyddom, mae’r Urdd heddiw yn fudiad sy’n ffynnu ac sy’n cyfrannu’n helaeth at iaith a diwylliant Cymru.
Mae gan yr Archifdy nifer o eitemau yn ymwneud â’r Urdd, gan gynnwys Rhaglen Testunau o Eisteddfod Gyntaf yr Urdd, Cylch Bangor, 1930.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2014