Archif y mis
Prif Adeilad y Celfyddydau yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru yn y 1970au cynnar. Sylwch ar waith adeiladu Theatr Gwynedd a agorodd ym 1974 ac ar y tai ar Strand St., Regent St. a Deiniol St. (Bangor Uchaf) a ddymchwelwyd a lle saif Brigantia (Seicoleg) erbyn hyn.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2014