Archif y mis
Tyrfa o wahoddedigion a phobl leol, yn mynychu seremoni gosod carreg sylfaen y Brifysgol, ar Ffordd y Coleg ym Mangor. Cynhaliwyd y seremoni ar y 9fed o Orffennaf 1907, gyda’r garreg sylfaen yn cael ei gosod gan Brenin Edward VII. Yn y cefndir, fe welir dau dŷ, Penbre a Bryn Afon, sydd heddiw yn cael eu defnyddio fel swyddfeydd gweinyddol gan y Brifysgol.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog arlein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2014