Archif y mis
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cynhaliwyd arbrawf yng Nglan-llyn, ar lannau Llyn Tegid, Y Bala i ganfod a ellid hyfforddi morloi i ganfod llongau tanfor y gelyn yn y môr mawr. Nid morloi cyffredin oedd y mamaliaid a ddefnyddiwyd, ond rhai a arferai berfformio ar lwyfan, gyda nifer hefyd o Sw Llundain. Yn anffodus nid oedd yn dasg hawdd eu rheoli - er mwyn cadw llygad ar y morloi roedd yn rhaid eu paentio mewn lliwiau llachar a bu'n rhaid rhoi llawer iawn o bysgod iddynt i'w gwobrwyo. Dangosodd yr arbrawf mai am fwyd yr oedd eu greddf gryfaf ac nid dilyn llongau tanfor, ac ni wnaeth y cynllun fyth ddwyn ffrwyth.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog arlein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2014