Archif y mis
Llun o Bont Britannia cyn Mai 1970.
Adeiladwyd y bont gan y peiriannydd Robert Stephenson, ac fe’i hagorwyd ar y 5ed o Fawrth 1850.
Gyda’r nos, ar y 23ain o Fai, 1970, crwydrodd rhai hogiau lleol, yn chwilio am ystlumod, i fewn i’r bont, a thanio torsh i weld eu ffordd. Yn ddiarwybod iddynt, cychwynasant dân yn y bont. Er mai metel oedd strwythr y tiwb, ’roedd wedi ei atgyfnerthu gan goed, a’r coed hwnnw wedi ei drwytho mewn pitsh. Llosgodd hwn yn ulw dros nos, a dwysedd y gwres yn ddigon i fwclo’r haearn nes bod y bont, i bob pwrpas, wedi ei difa’n llwyr.
Ail-gynlluniwyd y bont gan osod bwâu newydd o ddur i gynnal y strwythur. Ar y 30ain o Ionawr 1972, ail-agorwyd y bont i’r rheilffordd.
’Roedd dyluniad y bont wreiddiol yn cynnwys llewod sylweddol o galchfaen, a ddyluniwyd gan John Thomas, y naill ochr i’r rheilffordd. Nid yw’r llewod i’w gweld o’r A55, ond maent i’w gweld wrth deithio ar drên. Mae’r syniad o’u codi at lefel y ffordd wedi ei wyntyllu o bryd i’w gilydd.
Cymerodd fwy o amser eto i adeiladu’r dec ychwanegol i gludo’r ffordd uwchben y rheilffordd. Agorwyd y ffordd newydd hon yn 1980.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog arlein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015