Archif y mis
150 - Y Cymry ym Mhatagonia
Dyma ffotograff o rai o’r gwladfawyr o Gymru a ymsefydlodd ym Mhatagonia 150 o flynddoedd yn ôl.
Mae’n ddiddorol nodi fod y llun wedi ei dynnu ar y 28 o Orffennaf 1890, 25 o flynyddoedd yn union wedi i’r fintai gyntaf lanio yn Golfo Nuevo at y Mimosa.
Mae’r 28ain o Orffennaf o hyd yn ddyddiad pwysig yng nghaledr pobl Patagonia sydd yn dathlu Gwyl y Glaniad yn flynyddol.
Tynnwyd y llun hwn gan John Murray Thomas, a hwyliodd ar y Mimosa yn fachgen ifanc, gyda’i chwaer, Gwenllian a’i gŵr Abraham Mathews yn gwmni.
Mae’r arddangosfa “Y Cymry ym Mhatagonia” i’w gweld yn y Brifysgol yn Rhodfa Ystafell y Cyngor. Bydd yn parhau hyd diwedd y flwyddyn.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog arlein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015