Archif y mis
Mae hwn yn un o dri chynllun y ‘Proposed Site of the Eisteddfod Pavilion, 1914,’ a gedwir gan yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig (Llawysgrif 13976, Bangor). Fodd bynnag, oherwydd i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau, gohiriwyd yr Eisteddfod Genedlaethol o 1914 tan 1915.
Ar 5 Awst, 1915, cynhaliwyd Defod y Cadeirio, yng ngŵydd Canghellor y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George.
T.H. Parry Williams oedd yr enillydd, am ei awdl ‘Eryri’. Yn y flwyddyn honno, enillodd ef hefyd Goron yr Eisteddfod (camp yr oedd eisoes wedi’i chyflawni yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1912).
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog ar-lein <http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview>
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2015