Archif y mis
Dyma lun dyfrlliw cynnar o’r Brifysgol yn dangos yn glir y tŵr ac adeilad y llyfrgell ar ongl sgwâr. Ni chwblhawyd yr adeilad yn unol â bwriadau’r pensaer Henry Hare oherwydd cyfyngiadau ariannol. Cwblhawyd y cwad allanol eang yn y 1960au.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog ar-lein <http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview>
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2015