Archif y mis
Dirgelwch y llyfr nodiadau o Benrhyn
Dyma dudalen o lyfr nodiadau, di-nod yr olwg, a ddarganfyddwyd yn ddiweddar gan Sarah Vaughan, Archifydd, tra’n catalogio casgliad Castell Penrhyn.
Mae’n cynnwys amrywiol ffigurau sy’n dyddio o 1850 hyd 1902, sydd, o edrych yn fanylach, yn amlygu eu hunain i fod yn ddata yn ymwneud â thaldra a phwysau gwahanol unigolion – aelodau o deulu Pennant ac ymwelwyr i Gastell Penrhyn!
Ni wyddus pam y crewyd y ddogfen na phwy greodd y llyfryn chwaith.
Am ragor o fanylion, ewch i dudalennau “Prosiect Siwgr a Llechi”.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2015