Archif y mis
Llun o Goleg y Santes Fair, Bangor, c.1900. Ym mlaen y llun gwelir yr hen gae pêl-droed, lle mae Asda erbyn hyn.
Adeiladwyd Coleg y Santes Fair, Bangor, ym 1893 gan yr Eglwys yng Nghymru fel Coleg Hyfforddi Athrawesau. Cafodd ei uno â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru (Prifysgol Bangor) ym 1977.
Llun cyhoeddwyd gan E.T.W. Dennis & Sons Ltd.
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog arlein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015