Archif y mis
Llun o’r “Parti Brenhinol ar y teras, Baron Hill, Biwmares” a dynnwyd ar y 9fed o Orffennaf 1907.
Ymysg y gwesteion mae:
Rhes gefn (chwith i dde): H.R. Hughes (Kinmel) a’r Arglwydd Tweedmouth.
Rhes flaen : (chwith i dde): Syr R. Bulkeley Bart., Y Frenhines, Arglwyddes Magdalen Bulkeley, y Brenin Edward VII, Miss Siriol Bulkeley, Tywysoges Victoria a Iarlles Gosford.
Ar yr union ddiwrnod mynychodd y Brenin Edward VII seremoni gosod y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor.
Prynwyd y llun yma yn ddiweddar mewn arwerthiant lleol gan Mrs Mary Simpson o Niwbwrch, cyfaill o’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig. Roedd hi’n awyddus iawn i ni gael copi o’r llun a’i ychwanegu at ein casgliadau, gan fod papurau ystâd Baron Hill yng ngofal y Brifysgol ac oherwydd y cysylltiad brenhinol gyda sefydlu’r Brifysgol.
Os oes gennych luniau yn eich meddiant, a’ch bod yn meddwl y buasent o ddiddordeb i’r Archifdy, cofiwch gysylltu!
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog ar-lein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ionawr 2016