Archif y mis
Llun a dynnwyd oddi ar ben mynydd Bangor yn dangos safle Ysgol Gwyddorau Peirianneg, Ffordd Deon yn cael ei adeiladu 1965.
Os oes gennych luniau yn eich meddiant, a’ch bod yn meddwl y buasent o ddiddordeb i’r Archifdy, cofiwch gysylltu!
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog ar-lein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016