Archif y mis
Ffotograff o “Barc y Coleg” a gredir iddo gael ei dynnu yn y 1960au. Mae’n anodd credu bod lle i 8 cwrt tenis yn yr ardal hon, sydd heddiw wedi’i phlannu’n drwm â choed.
Darganfyddwyd y llun hwn mewn bocs o luniau a roddwyd i’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn ddiweddar gan Ystadau a Chyfleusterau (sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gwasanaethau Eiddo a Champws).
Os oes gennych luniau yn eich meddiant, a’ch bod yn meddwl y buasent o ddiddordeb i’r Archifdy, cofiwch gysylltu!
Mae Archifdy Prifysgol Bangor yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog ar-lein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2016