Archif y Mis – Ionawr 2019: George Hartley Bryan (1864-1928)
Roedd George Hartley Bryan yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor o 1896 tan iddo ymddeol yn 1926. Yn 1911 cyhoeddodd 'Stability in aviation; an introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanes', llyfr a osododd Bangor yn y rheng flaen lle'r oedd datblygiadau gwyddonol newydd yn y cwestiwn. Fe'i cyhoeddwyd o ganlyniad i'r ymchwil a wnaed ym Mangor a'r cyffiniau ar sefydlogrwydd gleiderau. Bu'n gweithio gyda William Ellis Williams, myfyriwr lleol a raddiodd mewn ffiseg a mathemateg (ac a ddaeth yn ddiweddarach yn Athro mewn Peirianneg Drydanol yn y Brifysgol) ac Edgar Henry Harper, myfyriwr arall ym Mangor, a fu'n cynorthwyo'r ymchwiliadau. Bu cydnabyddiaeth eang i bwysigrwydd gwaith Bryan at awyrennaeth ym 1914 pan gyflwynwyd medal aur y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol iddo - yr ail i'w rhoddi erioed (cyflwynwyd y gyntaf i'r Brodyr Wright).
Mae Papurau William Ellis Williams o dan gadw yn adran Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.
Hawlfraint: Y llun trwy garedigrwydd Mrs. E.G. Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2019