Archifau Cymru’n elwa ar gyllid partneriaeth
Bydd papurau sy’n rhoi record ddi-dor o ystâd Cymraeg o bwys, ac sy’n taflu goleuni dros fywyd yng ngogledd Cymru dros y canrifoedd yn cael eu diogelu, diolch i ddyfarniad grant i Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.
Bydd gwaith cadwraeth angenrheidiol ar fapiau bregus o fewn dogfennau Ystâd Penrhyn, yn digwydd diolch i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol (the National Manuscripts Conservation Trust - NMCT).
Mae tystiolaeth unigryw a gwerthfawr o sut y cafodd yr ystâd hon yn y Gogledd ei rheoli yn ystod y 19eg ganrif i’w gael yn nogfennau casgliad Ystâd y Penrhyn.
Mae rhai o’r mapiau’n cyfeirio at faterion hanesyddol y cyfnod, er enghraifft, cafodd map Penrhyn/2219 ei gynhyrchu o ganlyniad i epidemig o golera ym Mangor yn yr 1850au. Mae felly’n adnodd ymchwil gwerthfawr ar gyfer deall y cyfnod arwyddocaol hwn yn hanes cymdeithasol y ddinas.
Cafodd papurau Ystâd y Penrhyn eu derbyn ar ran y genedl yn lle treth etifeddiant yn 2010, ac ystyrir eu bod o arwyddocâd eithriadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Yn ôl Elen Simpson, Archifydd Prifysgol Bangor:
“Rydym eisoes yn cynnal project mawr i gatalogio Papurau Penrhyn sydd wedi dod i’n dwylo yn ddiweddar drwy Raglen Grantiau Catalogio Cenedlaethol, a bydd y gwaith yma yn y pen draw yn cael ei roi ar-lein er mwyn iddo fod ar gael i’w chwilio gan ymchwilwyr lle bynnag y bônt.
Mae ‘casgliad mapiau ychwanegol Penrhyn’ yn rhan bwysig o dreftadaeth yr ardal. Maent yn ffynhonnell o bwys ar gyfer hanes lleol a hanes tirlun o ganol y 18fed ganrif hyd at ddechrau’r 20fed ganrif.
Rydym yn awr yn canolbwyntio ar nifer o fapiau yn y casgliad, nad ydynt ar gael i’w archwilio ar hyn o bryd oherwydd eu cyflwr bregus. Bydd y gwaith cadwraeth yn sicrhau y byddant ar gael unwaith eto. Ein nod yw gwarchod y cofnodion er mwyn iddynt fod ar gael i gynifer o bobl â phosib.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
“Mae yna amrywiaeth ddiddorol o eitemau sy’n cael cyllid eleni, gan gynnwys casgliadau Ystâd y Penrhyn, yr ystyriwyd eu bod o arwyddocâd eithriadol pan gawson nhw eu derbyn ar ran y genedl yn lle treth etifeddiant.”
“Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolwyr NMCT am eu cymorth ac am helpu’r gwasanaethau archifo yng Nghymru i sicrhau y bydd rhai o’n heitemau mwyaf arbennig ar gael i ni ac i genedlaethau’r dyfodol eu gwerthfawrogi a’u mwynhau.”
Ers 2008, mae’r NMCT, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 35 o brosiectau. Mae eitemau a chasgliadau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol mewn archifau ledled Cymru, gan gynnwys llythyrau o’r ffosydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, achau teuluoedd a mapiau hanesyddol, wedi eu diogelu.
Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd NMCT:
“Rydyn ni mor falch bod ein partneriaeth tymor hir gyda Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mwy o lawysgrifau pwysig o Gymru nag erioed o’r blaen yn cael eu diogelu.
“Mae ein partneriaeth wedi helpu i ddenu cyllid arall, ac o ganlyniad, gyda’n gilydd, rydyn ni wedi buddsoddi dros £200,000 mewn gwaith i ddiogelu treftadaeth ysgrifenedig Cymru – y cyfan ohoni bellach ar gael i’r cyhoedd ei gweld diolch i’r cymorth rydyn ni wedi ei roi.”
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2016