Archwilio Eich Archif
Mae archifau ledled Cymru yn paratoi i ddathlu ac arddangos eu gwasanaethau a’u casgliadau yn ystod wythnos Archwilio Eich Archif, sydd eleni yn rhedeg rhwng 17 a 25 o Dachwedd.
Fel rhan o’r dathliadau, mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Bangor gyda chymorth yr adran Ehangu Mynediad wedi gwahodd disgyblion o Ysgol y Felinheli i’r Brifysgol ar y 16eg o Dachwedd i weld perfformiad-un-dyn ar hanes y Cymry a ymfudodd i Batagonia dros 150 o flynyddoedd yn ôl. Ar ôl perfformiad gan yr actor, Martin Thomas, bydd yr Archifydd yn egluro tipyn am y dogfennau sydd yng ngofal y Brifysgol sy’n ymwneud â sefydlu’r Wladfa Gymreig .
Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio gan S4C ac yn cael ei ddarlledu ar Heno, nos Lun, 19eg o Dachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2018