Arddangos gwaith PhD cyfrifiadureg mewn sioe gelf ym Mharis
Dyma ddigwyddiad anarferol ym maes cyfrifiadureg. Mae Zainab Ali Abood o Irac wedi cwblhau PhD ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar dan oruchwyliaeth Dr Franck Vidal a bydd ei gwaith ar Gelf Esgblygiadol yn cael ei arddangos mewn oriel gelf ym Mharis (Gallerie Louchard, http://www.galerielouchard.paris/). Teitl yr arddangosfa yw "algorithmes & créations évolutionnaires" a bydd y gwaith i'w weld yno rhwng 25 Hydref a 12 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017