Arddangosfa Addysg Uwch ar gyfer y gogledd orllewin ym Mangor
Gall myfyrwyr lleol gael atebion i’w cwestiynau ynghylch prifysgol yng nghynhadledd addysg uwch UCAS ym Mhrifysgol Bangor.
Dylai myfyrwyr o siroedd Gwynedd, Mon a Chonwy sy’n ymgeisio i fynd i brifysgol neu goleg ymweld â chynhadledd UCAS ym Mhrifysgol Bangor i glywed y cyfan am fywyd mewn addysg uwch.
Bydd dwsinau o brifysgolion a cholegau o bob rhan o’r DU ar gael i siarad yn uniongyrchol ag unrhyw un sy’n ystyried cymryd eu camau cyntaf at addysg uwch. Bydd y digwyddiad ar ddydd Mercher 15 Mehefin o 10.00 tan 1.00 hefyd yn gyfle gwych i bobl ifanc holi ymgynghorwyr UCAS ynghylch beth sy’n eu poeni am eu ceisiadau.
Meddai Michael Smith, Pennaeth Dros Dro Digwyddiadau UCAS: “Arddangosfeydd UCAS yn ffordd wych i gael gwybod am fywyd ar ôl arholiadau – a yw hynny'n golygu prifysgol, gwaith gwirfoddol, blwyddyn allan neu gyfleoedd gyrfa. Rydym wir yn annog pobl i ddod i Fangor a gweld beth y gellid eu dyfodol yn edrych fel .”
Meddai Llinos Williams, Swyddog Cyswllt Ysgolion: “Mae’n bwysig fod ein myfyrwyr yn gwneud dewisiadau deallus ar adeg tyngedfennol fel hyn. Ein digwyddiad ar ddydd Mercher yw’r cyfle delfrydol iddyn nhw ganfod beth sydd ar gael yn syth gan y prifysgolion a’r colegau eu hunain – lle gallen nhw fod yn astudio ymhen ychydig iawn.”
Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn cynnal cynadleddau UCAS ers tair blynedd ac mae oddeutu 900 o fyfyrwyr fel arfer yn dod yno bob blwyddyn.
Gall myfyrwyr ganfod sut i gael y gorau o’u hymweliad â’r gynhadledd drwy fewngofnodi ar www.ucas.com/prep. Mae UCAS yn trefnu dros 50 o gynadleddau bob blwyddyn ym mhob rhan o’r DU.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2016