Arddangosfa o hanes Iddewig Bangor yn mynd i Gaerdydd
Mae arddangosfa sy'n cyflwyno hanes yr Iddewon ym Mangor yn teithio i Gaerdydd.
Mae'r arddangosfa, Hanes yr Iddewon ym Mangor, yn dathlu presenoldeb Iddewon ym Mangor o'r canol oesoedd i'r Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).
Ar wahoddiad y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, bydd yn cael ei harddangos o 11 tan 18 Tachwedd yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, Caerdydd. Mae croeso i bawb ac mae am ddim.
Roedd yr arddangosfa'n gynnyrch cydweithio rhwng goruchwyliwr y project, Yr Athro Nathan Abrams o'r Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, a Gareth Roberts o Gynllun Cerdded a Darganfod Menter Fachwen.
Anogir trigolion lleol i ddysgu mwy am hanes cymuned Iddewig Bangor, sy'n mynd yn ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac sy'n cynnwys y siopau adnabyddus, Wartski's a Pollecoff's.
“Mae gan ddinas Bangor a’r ardaloedd cyfagos hanes Iddewig cyfoethog,” meddai’r Athro Abrams. “Ond, gwaetha'r modd, wrth i’r gymuned ddirywio a chwalu, a phob math o newidiadau'n digwydd i'n stryd fawr, nid oes llawer o bobl yn gwybod am yr hanes hwn.”
Ychwanegodd Abrams, “Mae'r hanes yno o flaen ein llygaid os ydym yn gwybod ymhle i edrych. Ac mae'r arddangosfa hon yn helpu i gofnodi'r hanes yma."
“Rydym ni’n gobeithio y bydd pobl yn dod atom i ddweud eu straeon cyn iddyn nhw fynd yn angof.”
Symudodd Iddewon i Fangor mewn niferoedd mwy at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roeddent yn dianc rhag erledigaeth yn Nwyrain Ewrop ond hefyd yn dymuno gwella eu hunain ym Mhrydain.
Cawsant gyfleoedd economaidd newydd cyffrous ym Mangor. Wrth i'r gymuned dyfu, agorwyd synagog ac roedd hyd yn oed gigydd kosher yno
Ymsefydlodd Iddewon a oedd yn ffoi rhag y Natsïaid ym Mangor neu fe'u symudwyd i'r ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ymdoddodd yr Iddewon yn dda iawn i'r gymuned leol, gyda rhai'n dysgu Cymraeg a chymryd rhan mewn eisteddfodau lleol.
Cafodd rhai ohonynt, megis Isidore Wartski, effaith drawsnewidiol ar y ddinas, gan helpu i hyrwyddo projectau adeiladu tai newydd a diddymu'r tollau ar Bont y Borth.
“Cyllidwyd yr arddangosfa gan Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth. Mae wedi helpu i drosi fy niddordeb maith a'm hymchwil i hanes yr Iddewon ym Mangor i'r eitemau gweladwy hyn. ”
“Bu cymaint o ganolbwyntio ar gynulleidfa De Cymru a Chaerdydd, fel ei bod yn bwysig cael mwy o gydbwysedd trwy ddatgelu mwy am gymunedau Iddewig yng Ngogledd Cymru.
Yn ddelfrydol, hoffem ddod â'r holl hanesion hyn at ei gilydd mewn un arddangosfa fawr a fyddai'n cofleidio Cymru gyfan gan gwmpasu'r holl gymunedau Iddewig yn y gogledd a'r de, ond mae angen mwy o arian arnom i wireddu hynny. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb. ”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2019