Arddangosfa Tynged yr Iaith
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Arddangosfa Tynged yr Iaith i nodi 50 mlynedd ers darlledu darlith ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis.
Mae’r arddangosfa, sydd yn cael ei chynnal yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol o Chwefror 13 2012 ymlaen.
Dywedodd Einion Thomas, archifydd y Brifysgol: “I ddathlu hanner can mlwyddiant darlledu Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis rydym wedi paratoi arddangosaf sy'n olrhain effaith y ddarlith ar hanes Cymru. Ceir ymdriniaeth a'r effaith a gafodd ar fyfyrwyr Bangor gyda mwy a mwy o alw am ddefnydd o'r Gymraeg ar trafferthion dybryd a fu yn y sefydliad rhwng 1976 ac 1984. Bydd hefyd yn cynnwys dogfennau yn ymwneud a brwydr Trefor ac Eileen Beasley i gael ffurflenni treth yn y Gymraeg gan Gyngor Llanelli.”
Yn 1953, gwrthododd Eileen Beasley a'i gŵr Trefor Beasley dalu treth cyngor am fod y cais gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn uniaith Saesneg, rhywbeth oedd yn gyffredin yng Nghymru ar y pryd. Bu 12 achos llys yn eu herbyn ond yn 1960 fe gawson nhw bapur treth dwyieithog, wedi colli eu holl eiddo I’r beiliaid
Roedd Saunders Lewis (1985 1893) yn fardd, dramodydd, hanesydd, beirniad llenyddol, ac actifydd gwleidyddol. Yr oedd yn genedlaetholwr Cymreig amlwg ac un o sylfaenwyr y Blaid Genedlaethol Cymru, sef Plaid Cymru yn ddiweddarach. Mae’n cael ei gydnabod ymysg ffigurau amlycaf yr ugeinfed ganrif o fewn byd llenyddiaeth Cymraeg ac yn 1970 fe gafodd ei enwebu am wobr Nobel am lenyddiaeth.
Yn 1962 ddarlledwyd araith radio gan Saunders Lewis o'r enw Tynged yr Iaith. Roedd yr araith yn rhagweld diwedd yr iaith Gymraeg oni bai bod camau i’w hamddiffyn.
Ysgogodd yr ymateb i'r ddarlith newid mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ystyrir yn gatalydd ar gyfer ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a dechrau'r cyfnod o weithredu uniongyrchol i wella statws yr iaith Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2012