Arddangosfa Y Rhyfel Mawr ym Mhrifysgol Bangor: ar agor tan Mawrth 2015
Awst 1914 oedd y mis pan ddywedodd Syr Edward Grey, "The lamps are going out all over Europe ... We shall not see them lit again in our lifetime." Bydd Awst 2014 yn nodi can mlynedd ers i Brydain fynd i ryfel yn erbyn yr Almaen, ac mae cynlluniau ar gael ledled y byd i goffau a myfyrio ar ryfel a gafodd effaith ddofn a sylfaenol ar gwrs ein hanes.
Bu'r Rhyfel Mawr yn achos newid aruthrol nas gwelwyd ei debyg o'r blaen: arweiniodd maint enfawr y gwrthdaro; y chwyldro milwrol gyda datblygu dulliau newydd modern o ryfela; y lladdfa ddychrynllyd ac effeithiau pellgyrhaeddol hynny ar gymdeithas, at weddnewid bywydau bob dydd pobl Ewrop a llawer eraill ar draws y byd. Gwelwyd diwedd ar yr hen drefn gyda syniadau newydd yn dod i'r amlwg a hen ddaliadau'n cael eu hysgubo ymaith.
Ganrif yn ddiweddarach mae'r bobl hynny a oedd yn ein cysylltu â'r Rhyfel wedi mynd i raddau helaeth, gan gynyddu pwysigrwydd deunydd archifol yn ymwneud â'r cyfnod. Mae'r arddangosfa gyfredol o ddefnydd wedi'i gymryd o gasgliadau o Adran Archifau Prifysgol Bangor yn cofio'r bobl - yr arwyr a'r dioddefwyr, yr heddychwyr a beirdd, milwyr, myfyrwyr a sifiliaid - a fu'n byw, yn ymladd a marw yn un o'r rhyfeloedd mwyaf marwol a dinistriol mewn hanes.
Mae'r eitemau a arddangosir yn cynnwys dogfennau gwreiddiol yn ymwneud â ffoaduriaid o Wlad Belg yng Nghymru; gohebiaeth a deunydd printiedig yn ymwneud â gwrthwynebwyr cydwybodol; mapiau, cynlluniau, ffotograffau a gorchmynion milwrol yn ymwneud â Brwydr Cefn Pilckem; dyddiaduron a llythyrau personol a milwrol; y Brifysgol a'r Rhyfel; a gwobrau, anrhydeddau a chofebau. Gwelir hefyd lythyr gan Cynan (Albert Evans-Jones) sy'n cynnwys drafft cyntaf ei gerdd ryfel gyntaf, 'Anfon y Nico i Landŵr', sy'n tystio i'w hiraeth am gefn gwlad Cymru a'i chymeriadau. Yn cael eu harddangos hefyd mae dau ddarn a ysgrifennwyd gan y bardd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans). Ceir drafft o'i awdl 'Yr Arwr' a enillodd iddo gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917, dim ond chwe wythnos wedi iddo gael ei ladd. Hefyd ceir llythyr, 'Rhiwle yn Ffrainc', lle mae'n disgrifio bywyd y tu ôl i'r ffosydd ar y Ffrynt Gorllewinol. Mae'r darn yn cynnwys disgrifiadau gwych a theimladwy, yn cynnwys disgrifiad o hen siel gyda blodau'n tyfu ohoni - y cyferbyniad llwyr rhwng rhywbeth mor hardd a rhywbeth mor ddinistriol a barbaraidd.
Gellir gweld yr arddangosfa tan Fawrth 2015 yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2014