Arddangosfa ym Mhorthaethwy
Mae prosiect SEACAMS sy’n cael ei redeg yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn eich gwahodd i ymweld ag arddangosfa i gael gweld a thrafod y cynlluniau ar gyfer ailddatblygiad safle ‘Westbury Mount’ ym Mhorthaethwy.
“Rydym yn falch o’n treftadaeth ym Mhorthaethwy ac ein henw da fel sefydliad ymchwil rhyngwladol. Mae SEACAMS yn sefydlu Canolfan Arloesi fel rhan integredig o’r Ysgol Gwyddorau Eigion er mwyn cymell buddsoddiad yn y sector forol yng Nghymru. Bwriad y datblygiad yw creu adeilad cynaliadwy, wedi ei gynllunio i safon uchel a wnaiff wella’r amgylchedd yn yr ardal leol. Rydym yn gwahodd pobl leol i ddod i gael golwg ar ein cynlluniau i gael gwybodaeth ac i fynegi barn,” dywedodd yr Athro Colin Jago, Cyfarwyddwr SEACAMS a Phennaeth Coleg Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd yr arddangosfa gyhoeddus ar agor Ddydd Iau'r 15fed o Fedi 10yb-8yh, Ddydd Gwener 16eg o Fedi 10yb-4yp, Ddydd Sadwrn 17eg o Fedi 10yb-2yp a Dydd Sul 18fed o Fedi 2yp-4yp yn Uxbridge House, Sgwar Uxbridge, Porthaethwy (siop ‘Menai Ski & Outdoor’ gynt, yng nghanol y dref)
Gallwch hefyd gyflwyno unrhyw sylwadau ar ein gwefan: http://www.seacams.ac.uk/ymgynghoriadeiladu
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2011