Argymhellion i gryfhau System Cyfiawnder Gweinyddol Cymru
Lansiwyd adroddiad sy’n codi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at yr heriau a'r cyfleoedd i system cyfiawnder gweinyddol Cymru heddiw (17 Tachwedd).
Mae cyfiawnder gweinyddol yn ymdrin â'r berthynas rhwng yr unigolyn a'r wladwriaeth ac mae'n cynnwys egwyddorion gwneud penderfyniadau da i gyrff cyhoeddus, sut mae pobl yn cwyno i'r cyrff hynny, yn ogystal â dulliau allanol o unioni cam fel y llysoedd, tribiwnlysoedd, ombwdsmyn a chomisiynwyr sydd â chyfrifoldebau mewn gwahanol feysydd o fywyd cyhoeddus.
Bydd yr argymhellion gan Dr Sarah Nason o Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn galluogi rhoi ystyriaeth i'r ffordd orau ymlaen o ran cryfhau gallu pobl i weithredu'n effeithlon ac yn gymesur pan deimlant nad ydynt wedi cael y gwasanaeth neu'r ymateb priodol gan nifer o wahanol gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Mae pwerau datganoledig wedi rhoi cyfrifoldebau i Lywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd allweddol fel tai, addysg, iechyd a chynllunio. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi creu gwahanol ddulliau o unioni cam, fel tribiwnlysoedd newydd, Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynwyr Plant a Phobl Hŷn, i sicrhau y caiff y cyfreithiau perthnasol eu gweithredu'n briodol ac yr ymdrinnir â chamweinyddu.
Mae Cymru mewn sefyllfa i arloesi a diwygio ei system cyfiawnder gweinyddol o'r gwaelod i fyny, gan sicrhau ei bod yn ymgorffori'r ymrwymiad mwyaf i safonau gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r cyhoedd, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol.
Yn hanesyddol, mae poblogaeth Cymru yn gwneud llai o hawliadau am gyfiawnder gweinyddol drwy'r gwahanol gyrff sy'n gyfrifol na'r boblogaeth mewn awdurdodaethau eraill yn y DU. Mae'r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn awgrymu cynyddu'r ymwybyddiaeth am y ffyrdd y gellir gwneud cwynion yn ogystal â chryfhau pwerau a swyddogaethau'r rhai sy'n gyfrifol am gynnal y gyfraith weinyddol.
Meddai awdur yr adroddiad, Dr Sarah Nason:
"Mae cynnal yr ymchwil hwn wedi rhoi cyfle gwerthfawr i mi ddechrau deall y problemau sy'n wynebu dinasyddion Cymru wrth geisio unioni cam pan fydd gwasanaethau yn methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig. Mae wedi fy nghaniatáu i ddechrau cynnig diwygiadau arloesol ynglŷn â sut y gallwn gynllunio ein dulliau unioni cam yng Nghymru fel eu bod yn gweithio'n well i ddinasyddion a chyfrannu at sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yn gwneud penderfyniadau'n well. Yn y pendraw bydd yn gwella ansawdd bywyd bob dydd pobl yng Nghymru, yn arbennig y rhai sy'n wynebu heriau difrifol mewn perthynas â materion fel tai, iechyd ac anghenion addysgol arbennig. Mae hefyd wedi fy helpu i weld nad yw'r materion hyn wedi eu cyfyngu i Gymru, a bod gan Gymru gyfle arbennig yng nghyd-destun datganoli i ddatblygu system cyfiawnder gweinyddol arloesol y gellid ei defnyddio fel model i'w dilyn gan awdurdodaethau cyfreithiol llai eraill ar draws y byd".
Meddai'r Athro Syr Adrian Webb, Cadeirydd Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd Cymru,
"Comisiynwyd Ysgol y Gyfraith Bangor gan y Pwyllgor i gynnal yr ymchwil hwn i'n cefnogi yn ein gwaith o warchod buddiannau'r cyhoedd mewn perthynas â chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru. Mae Dr Nason wedi cynhyrchu adroddiad ymchwil gwerthfawr iawn a fydd yn helpu i lywio'r gwaith parhaus o ddatblygu system sy'n cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion Cymru, er nad oes dealltwriaeth dda o'r system honno."
Gan groesawu'r Adroddiad Cyfiawnder Gweinyddol, meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor:
"Mae hwn yn ddarn pwysig iawn o ymchwil a gynhaliwyd yma yn Ysgol y Gyfraith Bangor, ac mae'n enghraifft arall o gyfraniad Ysgol y Gyfraith Bangor i gynhyrchu ymchwil sy'n torri tir newydd ac sy'n cynnig atebion llawn dychymyg i broblemau'r byd go iawn".
"Mae ymchwil Dr Nason wedi cynnig dull cadarn yn seiliedig ar egwyddorion fydd yn llywio'r math o werthoedd a ddylai fod gan system cyfiawnder gweinyddol, ac mae hefyd yn dangos bod dinasyddion Cymru yn haeddu gwell system o gyfiawnder gweinyddol, un y gallwn fod yn falch ohoni. Gallwn felly gyrraedd pwynt lle gallwn ddatgan bod gan ddinasyddion system deg a thryloyw i geisio iawn am gamweddau gan gyrff cyhoeddus sy'n torri eu hawliau.
Mae mynediad at unioni cam gweinyddol yn rhan o'r safon aur y dylai democratiaeth fodern geisio ei chael, ac mae'r Adroddiad hwn yn dangos y ffordd ymlaen i'n gwneuthurwyr polisïau allu ymgymryd â'r her cyfiawnder gweinyddol. Rwyf yn llongyfarch Sarah Nason ar y darn arbennig hwn o waith, a diolch i bawb yn yr awdurdodaeth, gwasanaeth y llysoedd, ymarferwyr cyfreithiol, swyddogion Llywodraeth Cymru a grwpiau budd-ddeiliaid sy'n ddinasyddion, a gyfrannodd yn hael i'r ymchwil rhagbaratoadol sy'n sail i ganfyddiadau'r adroddiad hwn."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015