Arloesi â defnydd newydd o Wlân
A ydych chi erioed wedi ystyried sut mae defaid yn goroesi ar y bryniau oer a gwlyb? Mae gan eu gwlân nodweddion insiwleiddio anhygoel sy’n eu cadw’n gynnes, ac mae’r ddynoliaeth wedi gwneud yn fawr o’u cnu ers miloedd o flynyddoedd. Ond a ellir ei ddefnyddio i gadw pethau’n oer?
Mae gwyddonwyr ymchwil yng Nghanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor wedi bod yn cyfrannu at ehangu ein dealltwriaeth o briodweddau anhygoel gwlân fel defnydd insiwleiddio yn y diwydiant cludo nwyddau oer, ac wedi rhoi prawf ar ei berfformiad at ddibenion newydd a gwerthfawr.
Mae cwmni Woolcool yn Swydd yr Amwythig yn arwain y farchnad sy’n arbenigo mewn pecynnu wedi’i insiwleiddio a gynhyrchir o ddeunyddiau naturiol. Gofynnodd y cwmni i’r Ganolfan BioGyfansoddion ymchwilio ymhellach i briodweddau gwlân yn rheoli tymheredd a byffro lleithder fel rhan o broject ymchwil a datblygiad a ariannwyd gan Innovate UK i ddatblygu deunydd pecynnu arloesol a chynaliadwy i’w ddefnyddio i gludo meddyginiaethau sydd angen eu cadw ar dymheredd sefydlog, yn enwedig brechlynnau, o gwmpas y byd.
Mae dod i ddeall sut mae gwlân yn ymateb i’r amgylchedd a sut mae’n gweithio yn gwarchod tymheredd a lleithder wedi galluogi Woolcool i ddatblygu deunyddiau pecynnu arloesol a chynaliadwy newydd ar gyfer dosbarthu bwyd, deunyddiau fferyllol a chynhyrchion eraill sydd angen cael eu cadw’n oer wrth gael eu cludo. Mae hefyd yn gweithredu’n well na deunyddiau insiwleiddio gwneud fel polystyren.
Mae Woolcool yn defnyddio gwlân 100% pur yn eu deunyddiau a chynhyrchion pecynnu ecogyfeillgar. Datblygwyd eu pecynnu wedi’i insiwleiddio i’w ddefnyddio yn y diwydiant bwyd ffres a’r diwydiant fferyllol, sy’n dibynnu ar sicrwydd bod eu cynnyrch yn cael ei gadw ar dymheredd sefydlog wrth gael ei gludo.
Trwy weithio gyda gwyddonwyr yn y Ganolfan BioGyfansoddion, mae Woolcool wedi dod i ddealltwriaeth dechnolegol o sut yn union mae eu hinsiwleiddio gwlân yn gweithio a chael cadarnhad gwyddonol bod eu cynnyrch yn cadw’r cynhwysion ar y tymheredd sefydlog gofynnol am gyfnodau hirach na phecynnu arferol, ac yn cwrdd â’r safonau pecynnu Ewropeaidd neu’n gwella arnynt.
Meddai Angela Morris, Prif Weithredwr Woolcool:
“Mae gwlân yn un o’r ffibrau mwyaf clyfar ac anhygoel ym myd natur gyda strwythur cymhleth a phriodweddau naturiol sy’n ymdopi ag eithafion oerfel a gwres.”
“Mae ffibrau gwlân yn hydrosgopig, sy’n golygu eu bod yn amsugno a gollwng lleithder, gan weithredu fel thermostat naturiol sy’n cynnal tymheredd sefydlog. Roeddem yn awyddus i fanteisio ar yr adnodd adnewyddadwy anhygoel hwn.”
Meddai Graham Ormondroyd, a arweiniodd y gwaith yn y Ganolfan BioGyfansoddion:
“Mae ein harbrofion wedi rhoi prawf ar berfformiad gwlân fel deunydd pacio ac wedi galluogi’r cwmni i ehangu. Maent erbyn hyn yn cyflogi 40 o bobol yn eu ffatri newydd. Mae’r deunydd yma wedi sefydlu enw da iddo’i hun yn gyflym iawn mewn marchnad arbenigol o bwys.”
“Diben y Ganolfan BioGyfansoddion yw ymchwilio i ddeunyddiau adnewyddadwy y gall cwmnïau masnachol eu datblygu ar gyfer y farchnad. Rydym bob amser wrth ein bodd pan fydd deunydd adnewyddadwy yn cael ei fabwysiadu i’w ddefnyddio yn lle deunyddiau anadnewyddadwy.”
Cyrhaeddodd gwaith y Ganolfan BioGyfansoddion yn ymchwilio i’r defnydd o wlân ar gyfer pecynnu bwydydd a meddyginiaethau restr fer y Wobr Arloesi Gorau mewn Busnes (a noddwyd gan Siemens Healthcare Diagnostics) yn nhrydedd Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi Prifysgol Bangor 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2016