Arloesi amlddisgyblaethol mewn twristiaeth antur ym Mhrifysgol Bangor yn dod â llesiant i ogledd Cymru.
Mae Menter trwy Ddylunio yn dychwelyd yn 2018 gyda'r seithfed gystadleuaeth flynyddol, ac mae'r tîm buddugol newydd ennill siec am £2,500. Mae'r her yn dod â myfyrwyr o feysydd Seicoleg, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Busnes, Dylunio Cynnyrch ac Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau at ei gilydd i weithio mewn timau amlddisgyblaethol. Eu nod yw creu cynnyrch neu wasanaeth ar gyfer busnesau lleol dros gyfnod o 8 wythnos.
Mae Menter trwy Ddylunio wedi bod yn enghraifft allweddol o astudio amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Bangor, gan roi cyfle unigryw i fyfyrwyr gydweithio gyda myfyrwyr mewn adrannau eraill na fyddai'n digwydd fel arfer yn ystod eu cyrsiau arferol.
Meddai Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio, am y broses wyth wythnos, "Ein bwriad oedd efelychu dechrau busnes yn greadigol, ac ni allwch chi ddysgu hyn mewn ffordd draddodiadol a didactig. Mae’n rhaid ei wneud trwy brofiad."
Ar ôl gweld sawl grŵp o fyfyrwyr yn mynd drwy'r gystadleuaeth, meddai, "Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr y gallant adfyfyrio arno mewn cyfweliadau am swyddi, ac rwyf wedi clywed o adborth blaenorol ei fod wedi helpu i gael gwaith."
Eleni, bu Menter drwy Ddylunio yn gweithio gyda dau gwmni yn y sector twristiaeth antur lleol, sef Rib Ride a Zip World. Mae twristiaeth antur yn dechrau ffynnu yng ngogledd Cymru ac mae'n ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym i fusnesau lleol. Mae myfyrwyr yn ffodus i allu gweithio gyda dau gwmni llewyrchus; maent yn cael profiad ymarferol yn gweithio gyda chleient, ac maent hefyd yn cael cyfleoedd i ddysgu am farchnata, datblygu apiau, twristiaeth llesiant ac yn bwysicach na dim, gwaith tîm amlddisgyblaethol.
Gyda'r cyhoeddiad diweddar am eu hatyniad newydd ar y cyd, y Velocity RIB, sef y cwch RIB cyflymaf yn y byd, gofynnodd y ddau gwmni i'r myfyrwyr feddwl am syniadau i ddenu ymwelwyr newydd i'w hatyniadau diweddaraf, gan hefyd cael ymwelwyr blaenorol i ddychwelyd.
Anogwyd y timau i chwilio am ffyrdd lle byddai eu syniadau o fudd i'r cwmnïau a thwristiaeth leol, ac i'r cwsmeriaid hefyd. Trwy gydol y broses 8 wythnos, bu'r myfyrwyr yn gweithio ar nifer helaeth o dasgau gyda'r bwriad o roi lle amlwg i lesiant yn eu cysyniad.
Meddai Nick McCavish, Pennaeth Gweithrediadau yn Zip World, wrth siarad am y timau eleni, “Gyda'r enillwyr eleni, rydym yn chwilio am ap y gallwn ei ddefnyddio fel busnes o fewn y chwe mis nesaf a chael enillion ar ein buddsoddiad ... a hefyd sicrhau bod Zip World hefyd yn gweithio gyda busnesau eraill yng Ngogledd Cymru i ddod â mwy a mwy o bobl i mewn i'r ardal".
Bu Zip World, a oedd yn gwmni Menter trwy Ddylunio yn 2017 hefyd, yn cyflogi'r tîm buddugol y llynedd am nifer o fisoedd, ac mae Nick yn gobeithio y bydd hynny'n parhau. Dywedodd, "Mae wedi bod yn wych cael bod yn gysylltiedig â myfyrwyr y brifysgol, ac mae'n rhywbeth rydym eisiau ei barhau dros y blynyddoedd nesaf".
Teimlai Phil Scott, capten Rib Ride, bod gweithio gyda'r brifysgol a'r myfyrwyr yn adnodd gwych, a bod Menter trwy Ddylunio yn "gyfle unigryw i ni ddatblygu cysylltiadau ar nifer o lefelau a hefyd i weld pethau o safbwynt ein defnyddwyr, hynny yw, gweld beth yw barn y myfyrwyr am ein busnesau."
Roedd enillwyr y gystadleuaeth Menter trwy Ddylunio eleni, y tîm Benchwarmers, wedi cael syniad arloesol yr oedd y beirniaid yn hoff iawn ohono. Gwnaethant gyflwyno'r syniad o greu prototeip o ap o'r enw Step Outside, sy'n annog defnyddwyr i gysylltu â bwytai lleol, atyniadau a gweithgareddau awyr agored. Cafodd y tîm bedwar munud i baratoi, denu'r beirniaid i ymweld â'u stondin masnach, lle gwnaethant selio'r fargen, dangos eu prototeip ar waith, ynghyd â brand grymus a syniad busnes oedd yn argyhoeddi.
Dywedodd Aaron Williams o Ysgol Busnes Bangor wrth ddisgrifio'r profiad, "Rwy'n meddwl mai un o'r pethau a oedd o gymorth mawr i ni oedd y ffaith ein bod yn cyd-dynnu'n dda iawn ac er ein bod wedi gweithio'n galed iawn, gwnaethom fwynhau pob munud o'r profiad".
Gydag arian y wobr gyntaf, gall y tîm ddatblygu eu syniad gyda Rib Ride a Zip World dros y misoedd nesaf, neu gallant ddefnyddio'r arian i ddechrau eu busnes eu hunain. Mae'r tîm Benchwarmers yn gobeithio y gall y wobr eu helpu i ddatblygu eu syniad ymhellach, ac mae'r rhan fwyaf o aelodau'r tîm yn gobeithio dod nôl i Fenter trwy Ddylunio y flwyddyn nesaf. Derbyniodd enillwyr yr ail a'r drydedd wobr £1,500 a £750 yn y drefn honno, hefyd i helpu dechrau syniad busnes.
Mae'r tîm amlddisgyblaethol sydd y tu ôl i Fenter trwy Ddylunio yn gobeithio y bydd yr her yn ddigwyddiad blynyddol i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, ac yn rhywbeth sydd o fudd iddynt yn eu hastudiaethau presennol ac yn eu gyrfa yn y dyfodol. Roedd y Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu, yr Athro Oliver Turnbull, yn aelod o'r panel o feirniaid yn y digwyddiad ac meddai, "Mae'n gyfle anhygoel i'n myfyrwyr sydd yn aml yn delio â phethau haniaethol a heb lawer o sail mewn cyfleoedd busnes i gysylltu â phobl sy'n byw ac anadlu'r pethau hyn bob dydd. Mae'n dda i fusnesau ond rwy'n meddwl mai'r myfyrwyr yw'r enillwyr go iawn, maent yn dysgu gymaint o'r cyfleoedd hyn a dyna'r rheswm yr ydym yn eu gwneud."
Mae'r gystadleuaeth yn parhau i fod o fudd i fusnesau lleol gyda dwsinau o syniadau gan ein myfyrwyr israddedig, er enghraifft, sut i gyrraedd cenhedlaeth newydd a dylunio cysyniad unigryw sy'n denu miloedd o dwristiaid. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld beth fydd y garfan y flwyddyn nesaf yn rhoi ger bron.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2018