Arloesi Pontio yn cefnogi cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor i ddatblygu braich brosthetig ar gyfer ei fab
Mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi sefydlu ei gwmni ei hun gyda chymorth gan Arloesi Pontio i ddatblygu aelodau prosthetig ar gyfer plant ifanc.
Ddwy flynedd yn ôl, roedd Sol Ryan, mab cyn-fyfyriwr seicoleg Ben Ryan, angen llawdriniaeth frys pan oedd yn 10 diwrnod oed. Gwnaeth llawfeddygon y penderfyniad anodd i dorri braich Sol i ffwrdd o dan y benelin oherwydd tolchen waed.
Doedd gweithwyr iechyd proffesiynol ddim yn gallu cynnig help gyda braich brosthetig hyd nes y byddai Sol yn flwydd oed.
Nid oedd Ben am aros am flwyddyn, felly defnyddiodd darnau o sbwng a’u gosod â thâp ar benelin Sol i weld beth fyddai'n digwydd. O fewn munudau roedd Sol yn chwarae gyda’i deganau gyda'i law – a’i fraich sbwng. Dyma’r tro cyntaf iddo geisio defnyddio ei fraich chwith ers y llawdriniaeth, cyn hynny, nid oedd y fraich chwith yn gwneud dim.
Roedd yn foment dyngedfennol i Ben, ac o hynny ymlaen, daeth datblygu braich well i Sol yn obsesiwn. Lluniodd Ben syniad am ddyluniad newydd a fyddai'n gweithredu llaw gan ddefnyddio symudiadau bach y benelin.
Roedd Ben yn argyhoeddedig y byddai’n gweithio, a chysylltodd ag Arloesi Pontio i ofyn am gymorth.
Eglurodd Wyn Griffith, Prif Dechnegydd Arloesi Pontio: "Pan ddechreuais i siarad â Ben a chlywed beth roedd am ei wneud a pham yr oedd am ddod yma, roeddwn yn teimlo’n wylaidd iawn.
"Roeddem newydd symud i mewn i’r adeilad newydd, a pha ffordd well i ddefnyddio’r offer newydd ond i helpu Ben gyda’i brosiect."
Gan ddefnyddio technoleg argraffu 3D-modern yn y labordy arloesi, roedd Ben a staff y Brifysgol yn gallu defnyddio darnau amrywiol o siop DIY a’u dychymyg i greu rhywbeth llawer mwy.
Ychwanegodd Wyn: "Y ffordd orau gallwn ni helpu pobl, i'w eu helpu i helpu eu hunain. Rydym wedi rhoi sgiliau a mynediad i offer a hyfforddiant i Ben fel y gall ddatblygu ei syniadau ei hun."
Heddiw, mae gan Sol brototeip newydd o fraich a llaw sy’n gallu gafael, gyda bawd symudol. Ac yn hytrach na'r tri mis a gymerai i gastio ac adeiladu braich brosthetig gwydr ffibr drwy'r gwasanaeth iechyd, gellir adeiladu ac argraffu braich newydd mewn ychydig o ddyddiau.
Golyga hyn fod y bachgen ifanc yn gallu cael yr ymyriad cynnar sydd ym marn ei deulu yn angenrheidiol, ac mae hefyd wedi agor byd cyfan newydd o gyfleoedd i’w dad.
Dywedodd Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio: "Gallai hyn leihau amseroedd aros arferol y GIG, sy’n oddeutu 6-12 wythnos, i ychydig oriau. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried goblygiadau seicoleg ddatblygiadol, ac ni ellir gorbwysleisio’r effaith ar fywyd unigolion.
"Maes o law, gallai'r datblygiadau gynnwys synwyryddion wedi'u hargraffu, a datblygu meddalwedd i awtomeiddio’r gwaith gosod a gweithgynhyrchu o fewn y cartref. Byddai dull amlddisgyblaethol yn ddelfrydol yn cynnwys peirianneg, systemau gwasanaeth iechyd, cyfrifiadureg, seicoleg, dylunio cynnyrch ac economeg iechyd a busnes."
Mae Ben wedi rhoi’r gorau i’w waith bob dydd i ganolbwyntio yn llawn amser ar aelodau prosthetig ac wedi sefydlu cwmni newydd o'r enw Ambionics. Er bod y cwmni’n newydd, mae Ben eisoes wedi ennill cefnogaeth gan enwau mawr. Ynghyd â chefnogaeth gan Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor, mae Ambionics hefyd yn cael ei gefnogi gan raglen entrepreneuriaeth Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru.
Hyd yma, ariannwyd y prosiect cyfan gan deulu a ffrindiau, ond bellach mae ymgyrch cyllido torfol wedi cychwyn, gyda Ben yn ceisio codi o leiaf £150,000 i fodloni'r awdurdodau meddygol bod ei fraich brosthetig yn ddiogel i’w defnyddio, i gwblhau'r patentau ac i ddatblygu'r dyluniad.
Os gall Ben godi hyd yn oed fwy o arian, mae eisiau gweld treialon ymchwil meddygol i gefnogi ei ddamcaniaethau ynghylch y ffordd mae plant ifanc yn dysgu defnyddio aelodau artiffisial.
Mwy o fanylion ariannu torfol yma.
Mae stori newyddion y BBC a fideo am y datblygiad cyffrous hwn i'w gweld yma: BBC News
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2017