Arolwg ymgynghorwyr yn dangos cefnogaeth ddiamheuol i Ysgol Glinigol Gogledd Cymru
Mae canlyniadau arolwg newydd wedi dangos fod Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn helpu i ddenu meddygon i weithio yng ngogledd Cymru.
O’r rhai oedd yn ymwybodol o’r Ysgol Glinigol wrth ymgeisio am eu swydd, dywedodd hyd at 85% fod ei bodolaeth ac enw da wedi dylanwadu’n gadarnhaol arnynt wrth ymgeisio am swydd yng ngogledd Cymru.
Sefydlwyd yr Ysgol Glinigol yn 2004 fel cyd-fenter rhwng y GIG yng ngogledd Cymru a Phrifysgolion Caerdydd, Bangor a Glyndŵr Wrecsam. Ar y dechrau, roedd yn darparu cefnogaeth a chyfleusterau i 50 o fyfyrwyr oedd yn gwneud eu hyfforddiant meddygol yn ysbytai’r rhanbarth; bellach mae 150 o fyfyrwyr yno bob amser.
Mae’r cysylltiadau hyn i’r Prifysgolion hefyd wedi galluogi'r Ysgol Glinigol i ddatblygu enw da am ragoriaeth mewn ymchwil gofal iechyd, gan ddod ag ymchwilwyr ynghyd ar draws gogledd Cymru i ymgymryd â phrosiectau clodfawr yn rhyngwladol, sawl un yn ymgysylltu â chymunedau lleol. Un esiampl yw’r treial CHARISMA. Dangosodd fuddion dros osod awyriad yng nghartrefi plant gydag asma yn Wrecsam - bydd yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn meddygol arweiniol yn hwyrach eleni.
Roedd yr arolwg hwn yn cynnwys bron iawn i 200 o ymgynghorwyr meddygol sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a benodwyd ers i’r Ysgol Glinigol gael ei sefydlu. Ymatebodd oddeutu dau draean o’r rhain, ymateb arbennig o dda ar gyfer y math hwn o arolwg.
Roedd eu hymatebion yn gefnogol iawn o waith ac addysgu Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, roedd y sylwadau nodweddiadol yn cynnwys:
‘Mae’n le ardderchog i ddysgu ac addysgu’
'Mae’r Ysgol Clinigol yn adnodd ffantastig’
‘Mae’n gyffroes a da o beth yw cael Ysgol Glinigol yng ngogledd Cymru, gobeithiaf bydd yn ein helpu i gynhyrchu ein gweithlu ein hunain'.
Wrth roi sylwadau ar yr arolwg, dywedodd yr Athro Clare Wilkinson, Cyfarwyddwr Ymchwil YGGC “Mae hwn yn gadarnhad hynod o’r bartneriaeth rhwng y GIG a’r sector Brifysgol yng ngogledd Cymru. Mae diwylliant ymchwil ac addysgu cryf yn y GIG yn arwain at ofal clinigol o’r radd flaenaf ac mae’n gwella’n economi’
Dywedodd Dr Paul Birch, Cyfarwyddwr Meddygol BIPBC hefyd ‘Mae YGGC wedi chwarae rhan fawr i wella recriwtio meddygon iau i BIPBC ac mae’n abwyd arwyddocaol yn ein hymgyrchoedd i ddenu ymgynghorwyr ansawdd uchel i ogledd Cymru’.
Cafwyd sylwadau tebyg gan yr Athro Michael Rees, Pennaeth Astudiaethau Cardiofasgwlaidd ym Mhrifysgol Bangor, 'Mae'r arolwg yn arddangos swyddogaeth hanfodol sydd gan YGGC wrth recriwtio meddygon yng ngogledd Cymru, ac mae'n dadlau dros barhau â'r Ysgol Glinigol fel gyrrwr rhagoriaeth er budd cleifion'.
Meddai Dr Lynne Kennedy, arweinydd academaidd iechyd a gwyddorau meddygol ym Mhrifysgol Glyndŵr: "Mae Prifysgol Glyndŵr yn croesawu’r arolwg yma sy’n amlygu enw rhagorol YGGC a’i dylanwad cadarnhaol ar ddenu staff meddygol o safon i’r ardal."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011