Arriva a’r Brifysgol yn nodi wythnos hinsawdd gyda chynllun teithio am ddim ar fysiau
Mae Bysus Arriva Cymru wedi ymuno â Phrifysgol Bangor i gynnig teithio AM DDIM i fyfyrwyr a staff sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol yn ystod Wythnos Hinsawdd.
Rhwng 3 a 9 Mawrth 2014, bydd Bysus Arriva Cymru yn cynnig teithio am ddim i holl staff a myfyrwyr y brifysgol trwy'r wythnos. Y cyfan fydd rhaid i gefnogwyr Wythnos Hinsawdd Prifysgol Bangor ei wneud bydd camu ar y bws, dangos cerdyn staff/myfyriwr Prifysgol Bangor dilys (gyda chod bar) i'r gyrrwr a theimlo'n fodlon eu bod yn gwneud rhywbeth bach i helpu'r amgylchedd.
Meddai Barry Mellor, rheolwr busnes i fusnes Bysus Arriva Cymru: "Roedd Bysus Arriva Cymru eisiau gwneud rhywbeth yn ystod Wythnos Hinsawdd i annog pobl i roi tro ar deithio ar fws. Trwy ymuno â Phrifysgol Bangor i gynnig teithio am ddim i fyfyrwyr a staff, y gobaith yw y gallwn weithio gyda'n gilydd i leihau allyriadau carbon a lledaenu'r gair.
"Mae'r daith ar y bws i'r brifysgol hefyd yn gyfle perffaith i wneud ychydig mwy o astudio!"
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol y brifysgol: "Ym Mangor, rydym wrthi'n cymryd camau breision tuag at fod yn brifysgol fwy cynaliadwy. Rydym yn gofyn i ni ein hunain pa effaith ydym yn ei gael ar yr amgylchedd a beth allwn ei wneud i wella pethau. Mae'r cynnig hael hwn gan Arriva yn annog ein staff a myfyrwyr i ystyried ffordd fwy amgylcheddol o ddod i'r brifysgol na dod yn y car ac mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd a lles defnyddio cludiant cyhoeddus i deithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol.” Heb gymorth Arriva, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib."
Wythnos Hinsawdd yw ymgyrch newid hinsawdd fwyaf Prydain a'i nod yw ysbrydoli pobl i gymryd camau newydd i greu dyfodol cynaliadwy. Os ydych yn ceisio meddwl am ffordd i wneud gwahaniaeth yn ystod Wythnos Hinsawdd, ewch i ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein Arriva i weld faint o arian y gallech ei arbed trwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn hytrach na gyrru pob dydd ( arrivabus.co.uk/fuel
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2014