Artist Preswyl cyntaf Pontio yn darlledu ar S4C - "Corneli Cudd”
Bydd ffilm fer am broject artist preswyl cyntaf Pontio’n cael ei dangos y mis Rhagfyr hwn fel rhan o gyfres ‘Calon Cenedl’ S4C.
Bydd ffilm a ffilmiwyd gan Osian Williams, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yng nghartref gofal Plas Hedd ym Maesgeirchen, Bangor, yn cael ei dangos am 7.55pm ddydd Llun, 3 Rhagfyr 2012.
Treuliodd y cerddor a’r cyfansoddwr Manon Llwyd fis yng nghwmni’r preswylwyr, y mae llawer ohonynt yn dioddef oddi wrth ddementia, gan fynd â cherddoriaeth i bob cornel o’r cartref bob adeg o’r dydd. Bwriad y project, sy’n rhan o raglen y celfyddydau Pontio, oedd mynd â phrofiadau newydd allan i’r gymuned a rhoi gwedd newydd i’r ‘cyngerdd’ cerddorol traddodiadol.
Mae’r ffilm fer, ‘Cân i Emrys’, yn dangos profiad unigryw un o’r trigolion, Emrys Roberts, wrth i Manon chwarae’r delyn gydag ef.
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio:
“Un o flaenoriaethau project Pontio yw sicrhau ein bod yn mynd â’r celfyddydau allan at bawb ac addasu’r profiad i’w hanghenion penodol. Weithiau mae’n rhaid i ni weithio ychydig yn galetach i gyrraedd rhai nad yw mor hawdd cael gafael arnynt.
Cael hyd i’r corneli cudd hynny oedd ein nod efo’r project hwn a’n gobaith ydi y gallwn fynd i lefydd eraill heblaw Plas Hedd o ganlyniad i hyn.
Roeddem eisiau rhoi gwedd gwbl wahanol i’r cyngerdd traddodiadol awr o hyd yn yr ystafell fyw – a mynd â’r gerddoriaeth i bob cornel o’r cartref – yn cynnwys unigolion sy’n methu mynd o’u hystafelloedd – a hynny ar bob adeg o’r dydd.”
Ychwanegodd yr artist preswyl, Manon Llwyd:
“Y bwriad oedd nid mynd yno fel diddanwr, ond yn hytrach ymdoddi i’r gymuned yn y cartref drwy gynnig creadigrwydd cerddorol fel roedd ei angen. I mi mae wedi bod yn brofiad unigryw ac arbennig iawn.”
gfellir gwylio'r ffilm yma.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2012