Arweiniad economeg iechyd newydd ar gyfer ymarferwyr iechyd cyhoeddus
Mae Dr Joanna Charles a'r Athro Rhiannon Tudor Edwards o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol wedi llunio llawlyfr electronig newydd o'r enw “Arweiniad i economeg iechyd i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus: llawlyfr pen desg cryno”. Mae'r Ganolfan yn rhan o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y brifysgol ac yn cyfrannu i Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, sy'n dod ag ymchwil iechyd ar draws y brifysgol at ei gilydd.
Bwriedir i'r llawlyfr hwn fod yn adnodd defnyddiol yn cyflwyno a diffinio termau economeg pwysig, fel bod y bobl sy'n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus ac sydd â diddordeb mewn economeg iechyd, yn gallu deall a gwerthuso tystiolaeth economaidd yn well. Gobeithiwn y gellir defnyddio'r llawlyfr fel arweiniad cyflym.
Gallwch ddarllen a lawr lwytho copïau Cymraeg a Saesneg o'r llawlyfr yma
http://cheme.bangor.ac.uk/health-econ-handbook.php.en
http://cheme.bangor.ac.uk/health-econ-handbook.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017